Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Athena SWAN

Rydym yn falch o fod wedi ennill Gwobr Efydd Athena SWAN sy'n cydnabod ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol ar draws ein Hysgol.

Rydym wedi ymrwymo i amrywiaeth o gamau gweithredu gan gynnwys:

  • cynyddu cydbwysedd rhwng y rhywiau ac amrywiaeth o ran recriwtio staff, datblygiad gyrfaol a dyrchafiadau
  • creu rhagor o gyfleoedd i staff gymryd rhan yn llywodraethiant a strwythurau'r Ysgol, a hynny i gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • cynyddu amrywiaeth o ran recriwtio myfyrwyr, gwella cymuned a diwylliant myfyrwyr
  • gwella diwylliant ein hymchwil a datblygiad gyrfaol ymchwilwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa
  • gwella amgylchedd gwaith a diwylliant staff

Rydyn ni'n falch iawn ein bod wedi sicrhau Gwobr Efydd Athena SWAN, sy'n dangos y cynnydd yr ydym wedi'i wneud fel ysgol mewn perthynas â chydraddoldeb rhwng y rhywiau a'n hymrwymiad parhaus i amrywiaeth o gamau gweithredu a fydd yn ein gwneud yn gymuned fwy amrywiol, cynhwysol a chyfartal. Diolch i'n tîm hunan-asesu a'r holl staff a myfyrwyr a gyfrannodd at ddatblygu ein cyflwyniad a'n cynllun gweithredu yr ydym bellach yn edrych ymlaen at ei gyflawni.

Yr Athro Gillian Bristow Deon Ymchwil yn y Coleg Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Athro Daearyddiaeth Economaidd