Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy 3: Safbwyntiau Beirniadol ar Ecosystemau Entrepreneuraidd

Dydd Iau, 15 Ebrill 2021
Calendar 15:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Nod y gyfres hon o weithdai yw rhannu, cyfnewid a datblygu ymchwil a syniadau am yr Ecosystemau Entrepreneuraidd. Mae'n adeiladu ar y prosiect a ariennir gan ESRC ar yr Ecosystemau Entrepreneuraidd ac Arloesedd yn y DU a Japan, trwy ddod â'r safbwyntiau academaidd a pholisi ynghyd i ddysgu am gyd-destunau, arferion a phrofiadau sefydliadol o ystod eang o ecosystemau.

Mae'r papurau a'r ymchwil a gyflwynir yn disgrifio un neu fwy o'r agweddau canlynol ar yr Ecosystemau Entrepreneuraidd: agweddau gofodol, rhwydweithiau, heriau, llywodraethu, polisïau, rolau amrywiol actorion, strwythur, esblygiad, llwyddiant neu fethiant, mesur, datblygu cysyniadol, a themâu cysylltiedig .

Ymhlith y siaradwyr bydd: Dr Jonathan Potter, OECD; Yr Athro Christina Theodoraki, Ysgol Busnes Toulouse; Yr Athro Piers Thompson Y Dr Yuxi Zhao, Prifysgol Nottingham Trent; Yr Athro Colin Mason, Prifysgol Glasgow

Dyma'r gweithdy cyntaf a gynhelir gan y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd, Prifysgol Caerdydd sydd newydd ei ffurfio.

Trefnir y gweithdy ar y cyd gan Brifysgolion Caerdydd a Chaeredin:

Dr Dan Prokop

Dr Fumi Kitagawa

Yr Athro Robert Huggins

Mae angen cofrestru ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiadau hyn. Nid oes rhaid talu am y digwyddiad hwn

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Rhannwch y digwyddiad hwn