Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Gwybodaeth am dderbyniadau ar gyfer astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd

Medic student in scrubs

Beth sy’n rhaid ei gynnwys ar fy nghais UCAS?

Rhaid i bob ymgeisydd lenwi pob rhan o'r cais UCAS. Hefyd, mae datganiad personol sy'n cynnwys gwybodaeth i gefnogi addasrwydd yr ymgeisydd ar gyfer cwrs meddygaeth a geirda academaidd yn hanfodol.

Beth ddylwn i ei gynnwys mewn datganiad personol?

Dylai datganiad personol pob ymgeisydd gynnwys:

  • dealltwriaeth o’r hyn mae gyrfa ym maes meddygaeth yn ei olygu,
  • tystiolaeth o brofiad mewn amgylchedd gofal a’r gallu i fyfyrio arno,
  • tystiolaeth o gyfrifoldeb personol a’r gallu i fyfyrio arno,
  • tystiolaeth o agwedd gytbwys at fywyd,
  • tystiolaeth o ddysgu hunangyfeiriedig.

Gellir dangos profiad mewn amgylchedd gofal a’r gallu i fyfyrio arno drwy ystyried unrhyw brofiad gwaith a gyflawnwyd (mae enghreifftiau’n cynnwys cartrefi gofal, helpu gyda disgyblion iau yn yr ysgol, helpu gyda chlybiau ac ati).

Bydd y Datganiad Personol yn cael ei sgrinio, ond ni fydd yn cael ei sgorio’n ffurfiol.

Beth yw barn yr Ysgol Meddygaeth am flwyddyn i ffwrdd?

Rydyn ni’n croesawu blwyddyn adeiladol i ffwrdd gan ei fod yn rhoi cyfle i chi deithio, cael profiad gwaith a chyflawni gwaith elusennol ac ati. Rydyn ni’n cydnabod y gall blwyddyn i ffwrdd ehangu eich sgiliau a’ch profiad. Gyda sefyllfa costau byw, gallai fod yn ddefnyddiol ennill arian cyn mynd i’r brifysgol hefyd.

Pa mor gystadleuol yw hi i gael lle yn astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd?

Mae’r gystadleuaeth wedi dod yn fwy ffyrnig byth dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ogystal â chynnydd yn nifer y ceisiadau, mae’r gyfran o’r ymgeiswyr hyn sy’n cael canlyniadau academaidd rhagorol hefyd wedi cynyddu. Yn anffodus, mae llawer o ymgeiswyr â chymwysterau rhagorol yn cael eu gwrthod oherwydd y gystadleuaeth hon am nifer penodol o lefydd.

Rydyn ni wedi cael tua 4600 o geisiadau bob blwyddyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rydyn ni’n cyfweld â 1100 o ymgeiswyr. Rydyn ni wedi cynnig lle i 520 o ymgeiswyr yn dilyn y cyfweliad eleni.

Mae tua 300 o lefydd yn yr ysgol meddygaeth ar gyfer Blwyddyn 1 (gan gynnwys myfyrwyr o’r DU a thramor).

Fel rhan o’r Broses Ddethol, dim ond os ydych chi wedi cael cyfweliad y gallech gael cynnig lle.

Faint o lefydd tramor sydd gennych i astudio Meddygaeth?

Fel y rhan fwyaf o Ysgolion Meddygaeth traddodiadol ledled gwledydd Prydain, mae ganddon ni derfyn o 7.5% ar gyfer llefydd tramor. Mae hyn yn golygu bod gennym tua 25 o lefydd ym mlwyddyn 1.

A yw ymgeiswyr o Gymru yn cael eu trin yn wahanol i ymgeiswyr o Loegr (a gweddill gwledydd Prydain)?

Mae gan bob Ysgol Meddygaeth yng ngwledydd Prydain feini prawf cyd-destunol, ac mae’r mwyafrif yn cynnwys eu hardaloedd lleol yn hyn. O ystyried daearyddiaeth a phoblogaeth Cymru, a thangynrychiolaeth myfyrwyr o Gymru sy’n astudio mewn Ysgolion Meddygol ledled Prydain, mae Ysgol Meddygaeth Caerdydd yn cydnabod ymgeiswyr sy’n hanu o Gymru fel un o’u grwpiau cyd-destunol.

Gwybodaeth bellach am dderbyniadau cyd-destunol Prifysgol Caerdydd.

Ariennir addysg feddygol yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru ac mae’r Ganolfan Addysg Feddygol yn yr Ysgol Meddygaeth yn cydnabod yr angen i sicrhau bod arian cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei wario i wella iechyd Cymru, yn ogystal â gweddill gwledydd Prydain.

Mae gan yr Ysgol Meddygaeth gyfrifoldebau mewn perthynas ag ehangu mynediad at feddygaeth a chefnogi amrywiaeth y gweithlu gofal iechyd, ac mae’r rhain hefyd yn ystyriaethau allweddol wrth adolygu ceisiadau i’r ysgol meddygaeth.

Fel pob Ysgol Meddygaeth yng ngwledydd Prydain, mae nifer y lleoliadau myfyrwyr meddygol wedi’i gapio yn unol â’r cyllid sydd ar gael.

Pam ydych chi’n trin ymgeiswyr cyd-destunol yn wahanol?

Mae sicrhau poblogaeth amrywiol o fyfyrwyr meddygaeth yn hyrwyddo ymagwedd empathetig a chyfannol tuag at gleifion, yn sicrhau ein bod yn dewis meddygon sy’n cynrychioli’r boblogaeth y byddan nhw’n ei gwasanaethu, ac maent yn fwy tebygol o weithio mewn cymunedau sy’n debyg i’r rhai maen nhw’n dod ohonynt ac mewn arbenigeddau sy’n profi anawsterau.

Anogir grwpiau o fyfyrwyr heb gynrychiolaeth ddigonol mewn ysgolion meddygaeth i wneud cais. Mae llawer o grwpiau wedi’u tangynrychioli. Mae symudedd cymdeithasol yn gwella drwy addysg.

Sut caiff ceisiadau eu sgorio?

Dosberthir ymgeiswyr fel rhai sy’n hanu o Gymru, gweddill y DU sydd heb eu cyd-destunoli, gweddill y DU sydd wedi’u cyd-destunoli, Ehangu Cyfranogiad a thramor.

Mae ymgeiswyr Ehangu Cyfranogiad sydd wedi cymryd rhan un ai yn y rhaglen Camu ’Mlaen, Doctoriaid Yfory (DY) neu raglen Ymddiriedolaeth Sutton yn cael cyfweliad wedi’i warantu. Darganfyddwch fwy am ein strategaeth ehangu cyfranogiad.

Rhoddir pwyntiau ar gyfer graddau sydd wedi’u cyflawni yn unig. Asesir 9 TGAU ac mae’n rhaid iddynt gynnwys TGAU Mathemateg, Saesneg Iaith, Bioleg a Chemeg (neu Wyddoniaeth Ddwbl)

A*/8/9 = 3 phwynt

A/7 = 2 bwynt

B/6 = 1 pwynt

Ni chaiff graddau sy’n llai na B/6 eu sgorio.

Os ydych chi’n ymgeisio gyda chymwysterau Safon Uwch sydd wedi’u cwblhau, ychwanegir y pwyntiau am y graddau hyn at eich sgôr TGAU. Ar ôl i chi gael dros 27 o bwyntiau, cewch eich ystyried ochr yn ochr â’r rhai â chymwysterau TGAU a lefel gradd (2:1) sy’n cyflawni’r sgôr uchaf hwn. Nid yw cael pedwerydd Lefel A yn ofynnol ac ni fydd yn cyfoethogi eich cais.

Os ydych chi’n ymgeisio â Gradd Anrhydedd (o leiaf 2:1) a hefyd wedi cyflawni’r gofynion isafswm TGAU a Safon Uwch, byddwch yn cyflawni’r sgôr academaidd uchaf ac yn cael eich ystyried ochr yn ochr â’r rhai sy’n cyflawni’r sgoriau academaidd uchaf gyda chymwysterau TGAU neu Safon Uwch.

Ar y pwynt hwn, yn gwbl ddibynnol ar nifer yr ymgeiswyr sy’n cyflawni’r sgoriau uchaf, os yw hyn yn uwch na’r nifer y gallwn eu cyfweld (tua 1100) rydyn ni’n cyflwyno sgôr trothwy UCAT.

Beth yw’r sgôr trothwy ar gyfer Meddygaeth yng Nghaerdydd?

Caiff sgoriau trothwy ar gyfer cyfweliadau (academaidd a UCAT) eu pennu ar sail pa mor gystadleuol yw nifer ac ansawdd (hynny yw safon) y ceisiadau rydyn ni’n eu cael bob blwyddyn. Er enghraifft, cyn COVID, nid oedd angen i ni ddefnyddio trothwy UCAT gan fod nifer a lefel gystadleuol yr ymgeiswyr yn golygu bod modd i ni gynnal cyfweliadau yn seiliedig ar ddefnyddio sgôr academaidd yn unig fel trothwy i ddewis ein cyfweleion.

Bydd y sgôr trothwy academaidd a / neu UCAT yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, a gallai amrywio rhwng gwahanol grwpiau i sicrhau bod cynrychiolaeth o bob grŵp.

Beth yw eich sgôr trothwy UCAT?

Caiff sgôr trothwy UCAT ond ei ddefnyddio os oes gennym ormod o ymgeiswyr sydd â sgoriau academaidd rhagorol.

Ni chaiff sgôr trothwy UCAT ei bennu ymlaen llaw, ac nid yw’n gysylltiedig â sgôr trothwy’r flwyddyn flaenorol. Ni ellir rhagamcanu’r sgôr, a chaiff ond ei ddefnyddio i bennu’r 1100 o ymgeiswyr fydd yn cael eu cyfweld.

Gallai’r sgôr trothwy fod yn wahanol ar gyfer y gwahanol grwpiau, er mwyn sicrhau bod cynrychiolaeth o bob grŵp.

Pa bynciau sy’n rhaid i fi eu cael?

TGAU: Mathemateg, Saesneg Iaith, Bioleg a Chemeg (neu Wyddoniaeth Ddwbl) ar radd B/6 neu uwch.

Safon Uwch: Cemeg a Bioleg a thrydydd Safon Uwch (gall Bagloriaeth Cymru fod yn drydydd Safon Uwch).

Mynediad i raddedigion: 2:1 ar lefel gradd (anrhydedd), ABC neu BBB Safon Uwch (gan gynnwys Cemeg a Bioleg) a’r nifer gofynnol o gymwysterau TGAU ar radd B.

Ydych chi’n edrych ar raddau disgwyliedig?

Ni chaiff graddau disgwyliedig eu hystyried ar unrhyw gam o’r Broses Ddethol.

Ydych chi’n edrych ar raddau lefel UG?

Ni chaiff graddau lefel UG eu hystyried ar unrhyw gam o’r Broses Ddethol.

Oes gennych chi raglen Mynediad i Raddedigion?

Yr unig ymgeiswyr Mynediad i Raddedigion y bydden ni’n eu hystyried ar gyfer cwrs 4 mlynedd yw’r rhai sy’n gwneud un o’n llwybrau Ffrwd Fwydo cytunedig (mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod ar y llwybr Ffrwd Fwydo benodol o Biowyddorau Caerdydd, Ffarmacoleg Feddygol Caerdydd, Gwyddorau Biofeddygol Bangor, neu Gwyddorau Biofeddygol PDC). Byddai’n rhaid i bob myfyriwr graddedig arall wneud cais ar gyfer y cwrs A100 5 mlynedd.

Ydych chi’n derbyn BTEC a lefelau T?

Nac ydyn.

Ydych chi’n derbyn canlyniadau arholiadau ailsefyll?

Rydyn ni’n derbyn canlyniadau ailsefyll ar lefel TGAU o fewn blwyddyn ar ôl iddynt gael eu sefyll yn wreiddiol (ac eithrio Saesneg Iaith, y gellir ei sefyll ar unrhyw adeg).

Nid ydym yn derbyn cymwysterau Safon Uwch sy’n cael eu hailsefyll. (Gall ymgeiswyr o Gymru ailsefyll pynciau lefel UG).

Ydych chi'n derbyn yr EPQ?

Nid yw'r Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael ei ystyried ar unrhyw gam o'r Broses Ddethol

Beth am amgylchiadau esgusodol?

Mae’n rhaid anfon y rhain at Brifysgol Caerdydd erbyn y dyddiad cau a nodir er mwyn i’r Grŵp Derbyn Myfyrwyr eu hystyried. Nid oes modd i ni addasu graddau academaidd sydd wedi’u rhoi gan gyrff dyfarnu (dylech gysylltu â’r Bwrdd Arholi perthnasol). Mewn achosion eithriadol (os darperir tystiolaeth) mae’n bosibl y byddwn yn caniatáu ailsefyll.

Dydw i ddim yn siŵr beth fydd fy statws ffioedd, allwch chi helpu?

Caiff statws ffioedd ymgeisydd ei osod gan y Brifysgol, yn unol â’r Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) ac egwyddorion arweiniol asesu ffioedd y Brifysgol.

Gweler manylion polisi statws ffioedd Prifysgol Caerdydd a llenwch yr Holiadur Asesu Ffioedd.

Cysylltwch ag admissions@caerdydd.ac.uk os oes gennych ymholiadau eraill.

Pryd bydda i’n clywed os oes gen i gyfweliad gyda Phrifysgol Caerdydd?

Byddwn ni’n adolygu pob cais yn drylwyr unwaith y bydd y dyddiad cau ym mis Hydref wedi mynd heibio. Gall y broses hon gymryd llawer o wythnosau. Felly, allwn ni ddim rhoi amserlen benodol i chi o ran pryd bydd ymgeiswyr yn cael gwybod a ydyn nhw wedi cael cyfweliad. Byddwn ni ond yn cysylltu ag ymgeiswyr pan fydd yr holl geisiadau wedi eu hadolygu.

Os na fyddwch chi wedi clywed gennym erbyn canol mis Rhagfyr, cysylltwch â ni drwy: medadmissions@caerdydd.ac.uk

A fydd y cyfweliadau wyneb yn wyneb neu ar-lein, a beth fydd y fformat?

Bydd y cyfweliadau ar ffurf Cyfres o Gyfweliadau Byr (MMI) sy’n cynnwys sawl gorsaf unigol â chwestiynau thematig.

Yn gyffredinol, byddwn ni’n gofyn cwestiynau am y cwrs yng Nghaerdydd, moeseg, eich dealltwriaeth o yrfa ym maes meddygaeth, y GIG, gweithio mewn timau, dysgu hunan-gyfeiriedig, cymhelliant, empathi, gwydnwch a chyfathrebu.

Bydd cyfweliadau ar gyfer derbyniadau 2024 ar-lein. Rydyn ni wrthi’n adolygu’r broses gyfweld ac felly mae’n debygol y byddwn ni ond yn cynnal cyfweliadau llafar, ac mae’n bosibl mai dim ond 6 gorsaf bydd.

Alla i wneud fy nghyfweliad yn Gymraeg? Sut mae gwneud cais am hyn?

Gallwch. Gall unrhyw un wneud yr MMI drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Bydd nifer penodol o gyfweliadau’n cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog. Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn dewis un o’r dyddiadau hyn wrth gofrestru ar gyfer eich cyfweliad.

Beth yw cyfweliad dwyieithog neu Gymraeg yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd?

Mae’r MMI Cymraeg a dwyieithog yr un fath yn eu hanfod, yn yr ystyr eu bod yn cael eu cynnal fel un cyfweliad. Gallwch newid o Gymraeg i Saesneg, ac i’r gwrthwyneb, yn y cyfweliadau hyn. Bydd pob cyfwelydd yn hapus i gynnal y cyfweliad yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac mae croeso i chi newid iaith ar unrhyw adeg.  Ni fyddwch yn cael pwyntiau ychwanegol am siarad Cymraeg, ac ni fydd pwyntiau’n cael eu tynnu os byddwch yn newid iaith ar unrhyw adeg yn ystod yr MMI. Efallai y byddwch yn dymuno gwneud un gorsaf yn Gymraeg ac un arall yn Saesneg. Ni fydd hyn yn effeithio arnoch chi mewn unrhyw ffordd.

Mae’r holl gwestiynau yn y cyfweliadau MMI ar gael yn Gymraeg, felly gallwch wneud y cyfweliad cyfan yn Gymraeg os dymunwch.

Fe wnes i gais i astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd y llynedd, ond chefais i ddim lle. Alla i wneud cais eto eleni?

Cewch. Cewch ailgyflwyno cais cyhyd â’ch bod chi’n bodloni isafswm y gofynion mynediad ar gyfer y flwyddyn rydych chi’n gwneud cais i gael dod yma. Bydd angen sgôr UCAT cyfredol arnoch.

Os byddwch yn ailymgeisio o raglen Camu ’Mlaen/Doctoriaid Yfory (DY) neu Ymddiriedolaeth Sutton neu GEM, bydd angen i chi roi gwybod i’r arweinwyr rhaglen perthnasol fel bod eich manylion yn cael eu rhannu â ni. Gallwch ond ailymgeisio unwaith o un o’r rhaglenni hyn.

Es i i raglen Camu ’Mlaen/Ymddiriedolaeth Sutton, ond sut byddwch chi’n gwybod?

Rydyn ni’n cael rhestr o ymgeiswyr sydd wedi mynychu yn y flwyddyn ddiwethaf.

Os mai mewn blwyddyn flaenorol aethoch chi, a’ch bod yn ailymgeisio, rydyn ni’n eich cynghori i gysylltu â’r rhaglen a rhoi gwybod iddyn nhw eich bod chi’n ailymgeisio fel bod modd iddynt rannu eich manylion gyda ni.