Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Cynllun ffioedd a mynediad 2021-22

Adran 1. Lefelau ffioedd

1.1. Lefelau ffioedd neu lefel y ffi a bennir ym mhob lleoliad

(Paragraffau 85-93 yn yr arweiniad)

Lefel y ffiLleoliad y cwrs
£9,000 y flwyddyn

Ar y Campws

BA, BDS, BEng, BMus, BSc, BScEcon, LLB, MArch, MBBCh, MChem, MEng, MSci, MMath, MPharm, MPhys, MBiomed, MMORS, MNeuro, PCET/PGCE

£1,800 (Blwyddyn ryngosod mewn
Diwydiant) - 20% o’r ffi amser llawn)

Blwyddyn allan rhyngosod mewn Diwydiant

BA, BDS, BEng, BMus, BSc, BScEcon, LLB, MBBCh, MChem, MEng, MSci, MMath, MPharm, MPhys, MBiomed, MMORS, MNeuro

£1,350 (Erasmus / Blwyddyn
Dramor - 15% o'r ffi amser llawn)

Erasmus / Blwyddyn Dramor

BA, BDS, BEng, BMus, BSc, BScEcon, LLB, MBBCh, MChem, MEng, MSci, MMath, MPharm, MPhys, MBiomed, MMORS, MNeuro

£4,500 (Blwyddyn ryngosod â gofyniad presenoldeb uwch, 50% o’r ffi amser llawn)

Blwyddyn ryngosod mewn Diwydiant

MArch

1.2. Lefelau ffioedd crynodol

(Paragraffau 94-98 yn yr arweiniad)

Y ffi gyfanredol ar gyfer y cwrs llawn yw cyfanswm y ffioedd ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs. Gall ffioedd yn 2021/22 gynyddu yn unol ag unrhyw newidiadau i bolisi Llywodraeth Cymru. Os bydd ffioedd cyrsiau’n amrywio oherwydd cyfnod ar leoliad neu’n astudio dramor tra bo myfyriwr wedi’i gofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd y rhain yn eglur pan mae'r myfyriwr yn cyflwyno cais.

Mae gohebiaeth Prifysgol Caerdydd yn targedu darpar ymgeiswyr am le yn y Brifysgol, y myfyrwyr presennol, rhieni, staff mewn ysgolion uwchradd a cholegau gan gynnwys athrawon ac ymgynghorwyr gyrfaoedd, a staff y Brifysgol er mwyn sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael gwybodaeth gywir, amserol a chyson. Rydym yn sicrhau bod y wybodaeth a roddir yn bodloni’r safon ansawdd a nodwyd yn Rhan C o Gôd Ansawdd Addysg Uwch y DU gan QAA, gofynion y canllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) a'r arfer da a ddisgrifir yn Gwybodaeth i Fyfyrwyr: canllaw ar gyfer rhoi gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr israddedig. Mae ein gweithdrefnau cwyno ac apelio i fyfyrwyr yn cyd-fynd â chyngor y CMA ac â fframwaith arfer da Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol.

Mae'r dulliau cyfathrebu’n cynnwys:

Gwefan

  • Mae tudalennau penodol ar y we yn cynnwys gwybodaeth am ffioedd dysgu, cyfleoedd ariannu gan gynnwys ysgoloriaethau a bwrsariaethau, a chefnogaeth i fyfyrwyr. Mae'r tudalennau'n cynnwys dolenni i wefannau perthynol eraill gan gynnwys Cyllid Myfyrwyr Cymru/Lloegr/yr Alban/Gogledd Iwerddon, yn ogystal â chyfeirio ymgeiswyr at wybodaeth gyswllt ddefnyddiol i brifysgolion.
  • Rydym yn parhau i ddatblygu ein Setiau Gwybodaeth Allweddol (KIS), gwybodaeth safonol am gyrsiau israddedig sydd wedi'u dylunio i fod yn gymaradwy ar draws pob sefydliad addysg uwch y DU. Mae hyn wedi sicrhau bod amrywiaeth eang o wybodaeth sy’n ymwneud yn benodol â phob cwrs astudio, a’r sefydliad yn gyffredinol, ar gael i ddarpar fyfyrwyr. Caiff pob KIS ei chyflwyno fel gwefan sy'n rhoi gwybodaeth ynghylch rhaglen astudio ac yn cynnwys manylion ynghylch; trosolwg o'r cwrs, gofynion mynediad, ffioedd dysgu, strwythur y cwrs, cyfleoedd ar gyfer lleoliadau, achrediad, dysgu ac asesu, a strwythur rhaglenni gradd. Ychwanegwyd manylion yn ddiweddar ynghylch ceisiadau fesul lle. Enghraifft o KIS
  • Er mwyn gwneud yn siŵr bod gwybodaeth fwy eglur ar gael i ymgeiswyr a’r rhai sydd wedi cael cynnig lleoedd, yn hytrach na chynnwys dolenni ar y gefnogaeth berthnasol ynghylch ffioedd a chymorth i fyfyrwyr ar ein porth i ymgeiswyr, rydym bellach yn cadarnhau ffioedd yn rhagweithiol yn y llythyr o gynnig i'r ymgeisydd. Yn dilyn hynny, rydym yn anfon cyfres o gyfathrebiadau at ddeiliaid cynigion i wneud yn siŵr eu bod yn cael gwybodaeth sy'n uniongyrchol berthnasol ar gyfer eu statws o ran ffioedd.

Deunyddiau marchnata/diwrnodau agored

  • Mae'r Brifysgol yn rhoi gwybodaeth am ffioedd a chefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr mewn diwrnodau agored, diwrnodau ymweld, ffeiriau addysg uwch a gweithgaredd ymgysylltu ag ysgolion a cholegau. At hynny, mae gwybodaeth ar gael mewn prosbectysau, llyfrynnau, taflenni ysgoloriaethau a bwrsariaethau a chyngor gan staff y Brifysgol. Mae gwybodaeth edi'i chynnwys mewn cyflwyniadau i athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd yn ogystal â’r sgyrsiau ar gyllid myfyrwyr a roddir i ymgeiswyr.
  • Rydym hefyd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Facebook, Twitter, Instagram, blogiau a YouTube i gyfathrebu â darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol.

Ebost

  • Bydd y rheiny sy'n gwneud cais i’r Brifysgol yn cael ebost yn cydnabod bod ei gais wedi cyrraedd ac yn darparu dolenni cyswllt i’n gwybodaeth am ffioedd ar-lein.
  • Rydym yn gohebu â phob deiliad cynnig ar ffurf cylchlythyr sy'n rhoi manylion darpariaeth ysgoloriaeth a bwrsariaeth.
  • Mae ein llythyr ffurfiol o gynnig yn manylu ynghylch y ffioedd dysgu sy'n daladwy ar gyfer blwyddyn gyntaf y rhaglen ac yn amlinellu unrhyw gynnydd posibl mewn ffioedd ar gyfer blynyddoedd astudio dilynol. Rydym yn cyfathrebu ynghylch ffioedd drwy gydol y cyfnod
    astudio.

Adran 2. Partneriaeth Myfyrwyr

(Paragraffau 99-102 yn yr arweiniad)

Ein huchelgais yw i 'gael ein hadnabod fel Prifysgol sy’n annog lefelau uchel o ymgysylltu â myfyrwyr, ac sy’n gwrando ar ein myfyrwyr, yn ymateb i’w hanghenion a’u disgwyliadau, ac yn rhoi cyfleoedd iddynt lywio eu haddysg a’r profiad ehangach i fyfyrwyr.' Mae ein strategaeth ar gyfer Addysg a Myfyrwyr yn ein hymrwymo i:

  • gynnwys ein holl fyfyrwyr mewn deialog ystyrlon ynglŷn â’u dysgu, gan gynnwys rhoi adborth rheolaidd, amserol a hygyrch i lywio cynnydd academaidd
  • gwrando'n astud ar lais y myfyrwyr er mwyn llywio cynllunio yn y dyfodol a chreu amgylchedd dysgu sy'n bodloni disgwyliadau ein myfyrwyr
  • ymestyn y cyfleoedd i fyfyrwyr gyfrannu at fywyd prifysgol a helpu i lywio eu profiad addysgol, gan gynnwys prosiectau a arweinir gan fyfyrwyr a chynlluniau llysgenhadon myfyrwyr.

Mae ein hagwedd tuag at ymgysylltu â myfyrwyr yn adlewyrchu egwyddorion Wise Cymru.

Gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr

Mae Siarter y Myfyrwyr yn amlinellu'r hyn y gall myfyrwyr ei ddisgwyl gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, a'r cyfrifoldebau sydd ar ein myfyrwyr i wneud y mwyaf o'u profiad yn y Brifysgol. Mae'n cynnwys disgwyliadau y cynigir agwedd agored, gonestrwydd, amrywiaeth ac y dethlir iaith a diwylliant Cymru. Mae'n cael ei hadolygu bob blwyddyn gan Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol i wneud yn siŵr ei bod yn berthnasol o hyd. Mae'r Brifysgol yn cefnogi Undeb y Myfyrwyr i gyflawni ei amcanion, gan gynnwys ymgysylltu â phob myfyriwr, cynnig cyfleoedd datblygu/gwirfoddoli, creu cyfleusterau o'r radd flaenaf a chynnig gweithgareddau chwaraeon, cymdeithasau a gwasanaethau cyngor annibynnol. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau cydnabyddedig wedi'i gynnwys yn nhrawsgrifiadau gwell y Brifysgol ar gyfer myfyrwyr.

Mae swyddogion etholedig Undeb y Myfyrwyr yn cymryd rhan fel aelodau llawn o brif bwyllgorau a grwpiau strategol y Brifysgol gan gynnwys:

  • Y Senedd - ein prif awdurdod academaidd, cyfrifol am bennu ein polisïau addysgol.
  • Y Cyngor - corff llywodraethu'r Brifysgol. Mae'n gyfrifol am reoli a chynnal materion y Brifysgol yn effeithlon, gan gynnwys cyllid ac ystadau.
  • Mae’r Pwyllgor Llywodraethu yn cynghori’r Cyngor ynghylch lefel y cydymffurfio gan y Brifysgol â gofynion gorfodol deddfwriaeth a rheoliadau eraill.
  • Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau – cyfrifol am graffu ar gyllid cyfalaf ar gyfer mentrau a gwerthuso effaith.
  • Pwyllgor Safonau Academaidd ac Ansawdd – cyfrifol am oruchwylio cynnydd a chyrhaeddiad myfyrwyr.
  • Grŵp Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg – cyfrifoldeb dros drosolwg o strategaeth Gymraeg y Brifysgol a datblygu darpariaethau Cymraeg ymhellach.
  • Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant - bydd yn gyfrifol am gynghori'r Cyngor trwy'r Pwyllgor Llywodraethu ar ddatblygu a gweithredu strategaethau ar gyfer sicrhau cydymffurfiad cyfreithiol ac arferion gorau ym mhob mater sy'n ymwneud â chyfle cyfartal ac amrywiaeth.
  • Grŵp Strategaeth Profiad Myfyrwyr - yn gyfrifol am oruchwylio'r strategaeth addysg a myfyrwyr.

Mae myfyrwyr sy'n swyddogion hefyd yn aelodau o'r byrddau llywio ar gyfer ein holl brosiectau sy'n wynebu myfyrwyr, gan gynnwys Canolfan Bywyd y Myfyrwyr. Mae ganddynt fynediad uniongyrchol a rheolaidd at uwch-swyddogion sy'n gwneud penderfyniadau, gan gynnwys yr Is-ganghellor ac aelodau eraill o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol. Yn rhan o'n prosesau sicrhau ansawdd mae myfyrwyr yn aelodau ffurfiol o'r panel sefydlog sy’n ystyried yr holl newidiadau a datblygiadau o bwys i'r rhaglen, ein Pwyllgorau Adolygu a Gwella Blynyddol a'r holl Baneli Adolygiad Cyfnodol.  Mae swyddogion Undeb y Myfyrwyr hefyd yn gwasanaethu ar ein paneli apeliadau Addasrwydd i Ymarfer, Cwynion, Disgyblu ac Addasrwydd i Ymarfer.

Mae'r Brifysgol yn bartner cefnogol yn ‘Wythnos Siarad’ flynyddol Undeb y Myfyrwyr, sy'n un o uchafbwyntiau'r calendr llais y myfyrwyr. Gofynnir i fyfyrwyr beth fyddent yn ei wneud pe gallent redeg y Brifysgol; cwestiwn sy'n cynhyrchu ystod eang o adborth adeiladol yn gyson. Gan ddefnyddio'r adborth gan fyfyrwyr a gesglir yn ystod Wythnos Siarad, mae Undeb y Myfyrwyr yn cynhyrchu Cyflwyniad Ysgrifenedig blynyddol y Myfyrwyr (SWS) ar gyfer Cyngor y Brifysgol. Cytunir ar ymateb sefydliadol i'r Cyflwyniad a chynllun gweithredu gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, a bydd Cyngor y Brifysgol yn eu cael er mwyn craffu. Mae Grŵp Strategol Cyflwyniad Ysgrifenedig Myfyrwyr yn monitro ac yn gwerthuso gweithgareddau a chamau gweithredu, ac mae'n cwrdd deirgwaith y flwyddyn a'i gadeirio ar y cyd gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr a'r Rhag Is-Ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd.

Rydym hefyd wedi sefydlu model prosiect ar y cyd i ddatblygu gwell dealltwriaeth o safbwyntiau myfyrwyr ynghylch materion penodol yn y Cyflwyniad a llywio datblygiad polisi a newid sefydliadol. Mae pob prosiect yn cynnwys aelodau sy'n staff a myfyrwyr. Mae enghreifftiau o bynciau a gwmpesir yn cynnwys gwella cyfathrebu effeithiol â myfyrwyr; deall taith myfyrwyr rhyngwladol; gwella'r system cynrychioli myfyrwyr; a gwella llythrennedd o ran asesu myfyrwyr.

Datblygiad newydd ar gyfer Cynllun Ffioedd a Mynediad 2021/22 fu cyflwyno cyfarfod cynllunio hydref rhwng y Brifysgol a thîm sabothol llawn Undeb y Myfyrwyr. Pwrpas y cyfarfod yw rhoi cyfle ffurfiol i'r Undeb godi materion sy'n peri pryder a diddordeb iddynt o ran datblygu ein hymagwedd tuag at y FAP, ac i'r Brifysgol ddeall barn yr Undeb yn well ar y cynigion FAP. Mae swyddogion gweithredol UM hefyd yn mynychu cyfarfod y swyddogion sabothol, gan fod y rhain yn unigolion ymgysylltiol iawn sydd yn aml wedi hynny yn cyflwyno eu hunain ar gyfer swydd sabothol, a thrwy hynny ddarparu rhywfaint o barhad i drafodaethau blynyddol ar y FAP. Mae gan UM hefyd gyfle i adolygu a dylanwadu ar ddogfennau drafft cyn eu cyflwyno i'n Pwyllgor Llywodraethu graffu arnynt.

Llais y Myfyrwyr

Rydym yn gwerthfawrogi barn a barn ein myfyrwyr, ac mae llawer o weithgareddau llais myfyrwyr, gan weithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, yn darparu cyfleoedd trwy gydol y flwyddyn i fyfyrwyr rannu eu barn am yr hyn y mae'r Brifysgol yn ei wneud yn dda a'r hyn y gall ei wneud yn well. Hefyd, mae gennym fecanweithiau i roi gwybod i fyfyrwyr a staff sut mae adborth myfyrwyr wedi dwyn newid ar draws y Brifysgol. Datblygwyd hyn yn fwy yn 2019/20 yn dilyn penodi Swyddog Ymgyrch Llais Myfyrwyr.

Mae system cynrychiolaeth academaidd myfyrwyr yn cael ei rheoli mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, sy'n caniatáu i fyfyrwyr sy'n gynrychiolwyr chwarae rôl bwysig yn y broses o wneud penderfyniadau ar lefel cwrs, gan dynnu ar adborth gan gorff ehangach y myfyrwyr. Mae cylch hyfforddi blynyddol ar gyfer ein cynrychiolwyr myfyrwyr wedi'i arwain gan Undeb y Myfyrwyr a'i gynnal ar y cyd â Chydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr Ysgolion, a chynhadledd hyfforddi flynyddol. Mae cynrychiolwyr myfyrwyr yn ymgysylltu â charfannau eu rhaglenni ac yn siarad ar eu rhan mewn ystod o fforymau sefydledig mewn Ysgolion a Cholegau. Mae'r rhain yn cynnwys paneli myfyrwyr-staff a chyfarfodydd rheolaidd o gadeiryddion panel myfyrwyr. Mae'r ymglymiad hwn yn sicrhau bod llais y myfyriwr yn cael ei glywed a'i ystyried wrth wneud penderfyniadau.

Anogir myfyrwyr i roi adborth drwy nifer o fecanweithiau, naill ai'n uniongyrchol drwy offer adborth neu drwy eu cymheiriaid, sef cynrychiolwyr myfyrwyr neu'r tîm Hyrwyddwyr Myfyrwyr (gweler isod). Er enghraifft:

  • Mae paneli myfyrwyr-staff yn galluogi bob cynrychiolydd academaidd myfyrwyr i gwrdd â'u staff yn eu Hysgol a rhannu eu profiad myfyrwyr yn rheolaidd.  Cynrychiolydd myfyrwyr enwebedig sy'n cadeirio'r cyfarfodydd hyn, a chynrychiolydd myfyrwyr sy'n gwneud y cofnodion. Caiff cofnodion y paneli eu rhannu gydag Undeb y Myfyrwyr sy'n creu 'adroddiad effaith' tymhorol, yn amlinellu'r prif anawsterau sy'n wynebu myfyrwyr yn ogystal â meysydd o gryfderau penodol.  At hynny, gwahoddir cadeiryddion paneli myfyrwyr–staff i'r Byrddau Astudio er mwyn trafod adborth gan fyfyrwyr.
  • Fforymau'r Colegau: cyfle i gadeiryddion paneli myfyrwyr–staff Ysgolion sy'n fyfyrwyr ddod ynghyd a chodi materion sydd wedi dod i'r amlwg ar baneli myfyrwyr–staff gyda swyddogion Undeb y Myfyrwyr, Deoniaid y Colegau ac aelodau eraill o staff drwy wahoddiad.
  • Mae Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn fyfyrwyr cyfredol y mae'r Brifysgol yn eu cyflogi fel asiantau newid i'n helpu ni i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o farn myfyrwyr ar faterion penodol. Maent yn cael eu cefnogi gan y Ganolfan Arloesedd a Chefnogaeth Addysg (CESI).   Hyd yma mae'r myfyrwyr hyn wedi bod yn rhan o amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys dylunio methodoleg profiad defnyddiwr (UX) ar gyfer yr Adolygiad Amgylchedd Dysgu Digidol yn ogystal â darparu mewnbwn gwerthfawr i ddatblygiad yr ap myfyrwyr, gan gynyddu ymgysylltiad â'r Myfyriwr Cenedlaethol. Arolygu a hwyluso prosiectau a gweithdai partneriaeth ar gyfer amrywiol fentrau sy'n ymwneud â phrofiad myfyrwyr.
  • Nid yw Ymgyrch Llais Myfyrwyr bellach yn ddigwyddiad unigol, yn hytrach cyfres o weithgareddau trwy'r flwyddyn i helpu i gau'r ddolen adborth fel bod myfyrwyr yn cydnabod bod eu hadborth yn cael ei werthfawrogi, gwrando arno a gweithredu arno. Mae Swyddog Ymgyrch Llais Myfyrwyr CESI sy'n gweithio gyda chynrychiolwyr myfyrwyr a staff yn gweithio gyda'i gilydd mewn ysgolion i dynnu sylw myfyrwyr at y newidiadau y maent yn eu gwneud a sut y gallant weithio mewn partneriaeth i wella eu profiad myfyrwyr.
  • Mae gwerthuso modiwlau yn rhoi adborth i fyfyrwyr ar eu holl fodiwlau trwy offeryn ar-lein hawdd ei ddefnyddio, a chytûn â ffonau symudol. Mae’r data hwn yn cynnig gwell dealltwriaeth o dueddiadau ym modlonrwydd myfyrwyr ar draws y Brifysgol ac yn helpu i amlygu blaenoriaethau o ran camau ymatebol a phriodol ar lefel Ysgol a Phrifysgol. Yn eu tro, mae cynullwyr modiwlau'n hysbysu myfyrwyr am y data gwerthuso modiwlau a'r camau a gymerir o ganlyniad i adborth myfyrwyr.
  • Derbynnir ymatebion ac adborth yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS) trwy'r NSS blynyddol o fyfyrwyr blwyddyn olaf israddedig. Caiff canlyniadau'r Arolwg eu harchwilio ar lefelau Ysgol, Coleg a Phrifysgol, a bydd blaenoriaethau o ran camau gweithredu a gwelliant yn cael eu nodi a'u monitro drwy Grŵp Strategol Profiad y Myfyrwyr.
  • Fframwaith Rheoli Arolygon - Fframwaith unigol dan berchnogaeth sefydliadol sy'n sicrhau bod llais y myfyriwr yn cael ei glywed a gweithredu arno, gyda chau dolenni adborth ar bob lefel. Mae'r fframwaith yn darparu cylch symlach o ddylunio, dadansoddi, adrodd a chyhoeddi ar gyfer pob arolwg myfyrwyr ynghyd ag eglurder ar lywodraethu, cyfrifoldeb, perchnogaeth data ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol.

Mae datblygiad y FAP hefyd yn cael ei ddylanwadu trwy ystyried adborth cyfranogwyr sy'n cael ei gasglu a'i ddadansoddi'n rheolaidd fel rhan o'n rhaglenni profiad myfyrwyr gan gynnwys:

  • Camu ‘Mlaen
  • Mentora Myfyrwyr
  • Hyrwyddwyr Lles
  • Mentrau cyflogadwyedd, a
  • Cyfleoedd byd-eang.

Mae ein myfyrwyr hefyd yn helpu i ddarparu sawl rhaglen a gweithgaredd a nodir yn y Cynllun. Er enghraifft:

  • Lleoliadau ar gyfer datblygu Dysgu, Addysgu ac Ymchwil yng Nghaerdydd lle mae myfyrwyr yn cael cyfle i weithio ar brosiectau i wella dysgu, addysgu ac ymchwil. Mae Prosiectau Arloesedd Addysg Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (CUSEIP) yn galluogi myfyrwyr i weithio'n uniongyrchol gyda staff ar brosiectau gwella dysgu, fel lleoliadau dros yr haf yn y lle cyntaf.
  • Mae'r Sioe Deithiol Addysg Uwch, a gynhelir ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn codi ymwybyddiaeth o addysg uwch ac yn rhoi cymorth wrth gam cynnar am yrfaoedd a dewisiadau pwnc. Mae'n cynnig cyflwyniadau rhyngweithiol i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 9-11, wedi’u hatgyfnerthu gan ddeunydd ar-lein a digwyddiadau 'Diwrnod Ysbrydoliaeth y Brifysgol’ ar y campws, wedi'u cynnal ar y cyd drwy Ymestyn yn Ehangach First Campus, er mwyn cyflwyno disgyblion i ystod eang o bynciau ar lefel Prifysgol. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o addysg uwch a'i buddiannau, ac annog disgyblion. Mae’n rhoi cyngor gyrfaoedd sy'n berthnasol i addysg uwch yn gynnar fel bod disgyblion yn gwneud dewisiadau gwybodus am TGAU ac addysg bellach.

Mae'r adborth gan fyfyrwyr a staff ynghylch y cynlluniau hyn yn gadarnhaol dros ben. Mae cydweithwyr academaidd yn nodi effaith bwysig cael myfyrwyr ynghlwm wrth brosiectau, sy'n cynnig elfen gyfredol iddynt, a myfyrwyr yn nodi bod y cynllun yn rhoi'r cyfle iddynt fod yn bartner ar y cyd gydag academyddion ar brosiectau, yn ogystal â chynnig profiad gwerthfawr iawn o gyflogadwyedd.

Adran 3. Grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol

(Paragraffau 103-107 yn yr arweiniad)

Dynodwyd gan HEFCW fel rhywun heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch:

  • pobl o bob oed sydd yn nau gwintel isaf Mynegai Lluosog Mynegai Cymru (WIMD40 ac ar wahân WIMD20)
  • pobl o bob oed o gymdogaethau cyfranogiad isel (POLAR 4)
  • myfyrwyr addysg uwch ran amser
  • pobl â nodweddion gwarchodedig
  • Myfyrwyr cyfrwng Cymraeg.

Nodwyd gan y rhaglen Reaching Wider:

  • o fewn dau gwintel isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru:
    • pobl ifanc ôl-16
    • oedolion heb gymwysterau lefel 4, i symud ymlaen i ddarpariaeth lefel 4.
  • a Chymru gyfan:
    • plant sy’n derbyn gofal
    • ymadawyr gofal
    • gofalwyr ym mhob grŵp oedran

Adnabuwyd gan Brifysgol Caerdydd fel myfyriwr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, sy’n / sydd ag:

  • Myfyrwyr â chyflyrau sbectrwm awtistiaeth (cyn mynediad), myfyrwyr â chyflyrau sbectrwm awtistiaeth, cyflyrau iechyd meddwl neu anghenion dysgu ychwanegol
  • ceiswyr lloches
  • ffoaduriaid
  • cyn-filwyr a’u teuluoedd
  • wedi ymddieithrio o’r teulu
  • cyntaf yn y teulu i gael AU
  • person o gartref ag incwm o dan £35,000

Adran 4. Amcanion i gefnogi cyfle cyfartal a hyrwyddo AU

(Paragraffau 114-148 yn yr arweiniad)

Adran 4.1 - Cydraddoldeb Cyfle

Amcan 1

Codi dyheadau a chynyddu mynediad at AU ymhlith grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol

Amcan 2

Sicrhau bod cyfraddau parhad grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn unol â gweddill poblogaeth y myfyrwyr

Amcan 3

Cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg trwy wella cymuned, diwylliant a darpariaeth Cymraeg y Brifysgol.

Amcan 4

Gwella cyflogadwyedd myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol

Adran 4.2 - Hyrwyddo addysg uwch

Amcan 1

Parhau i ganolbwyntio ar ymgysylltu byd-eang, cymunedol a dinesig sy'n effeithiol ac o ansawdd uchel

Amcan 2

Darparu amgylchedd dysgu ac addysgu o ansawdd uchel.

Amcan 3

Canolbwyntio ar wella sy'n gwella profiad y myfyriwr

Amcan 4

Parhau i gynnig cwricwla a chyfleoedd ehangach i ehangu cyflogadwyedd myfyrwyr

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Cynllun ffioedd a mynediad 2021-22
Statws y ddogfen:Cymeradwywyd
Dyddiad cymeradwyo:16 Mehefin 2021
Cymeradwywyd gan:S.B. Palmer