Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Polisi Cyhoeddi Paparau a Chofnodion Pwyllgor Prifysgol Caerdydd

Polisi Cyhoeddi Paparau a Chofnodion Pwyllgor Prifysgol Caerdydd

Rheoli Fersiynau

Fersiwn

Corff/Swyddog Cymeradwyo a Dyddiad

Fersiwn 3

Ysgrifennydd y Brifysgol (dirprwyaeth yr Is-Ganghellor)

6 Chwefror 2024

Mae'r Tabl Hanes Rheoli a Newidiadau i’r Polisi llawn ar ddiwedd y ddogfen (paragraffau 45-46).

Pwrpas a Chwmpas

1. Pwrpas y polisi hwn yw cadarnhau:

a) sut y caiff cofnodion a phapurau eu cyhoeddi’n rhagweithiol mewn perthynas â chyfarfodydd y Cyngor, y Senedd ac is-bwyllgorau’r Pwyllgorau hyn a’r broses er mwyn gwneud hynny.

b) sut yr ymdrinnir â cheisiadau am gopïau o gofnodion a phapurau, gan y rhai nad ydynt yn aelodau pwyllgor neu sydd fel arall yn dal swydd y dosberthir y cofnodion/papurau iddi fel arfer.

2. Mae’r polisi’n berthnasol i bapurau a chofnodion y Cyngor, y Senedd, eu prif bwyllgorau ac is-bwyllgorau, fel y nodir yn Atodiad A.

Datganiad Polisi

3.Mae’r Brifysgol yn hyrwyddo ffyrdd tryloyw o weithio, yn unol â Chôd Llywodraethu AU CUC, ac yn cydymffurfio â’i rhwymedigaethau i gyhoeddi gwybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2005.  Mae'r polisi hwn yn disgrifio'r dulliau ar gyfer sicrhau bod cofnodion pwyllgor a phapurau ar gael i staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill.

4.Yn ogystal, mae’r Brifysgol yn cydnabod bod angen cyfrinachedd ynghylch cynllunio masnachol a strategol y Brifysgol, a bod angen preifatrwydd mewn perthynas â gwybodaeth sy'n ymwneud â'i staff a'i myfyrwyr.  Mae’r polisi hwn, felly, yn sicrhau y caiff anghenion preifatrwydd yr unigolion hyn eu diogelu.

Cysylltiad â pholisïau sy'n bodoli'n barod

5.Lluniwyd y polisi hwn yn unol â darpariaethau Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth y Brifysgol a'i Ordinhadau.

6.Mae’r polisi hwn wedi'i ddrafftio i fod yn gyson â Pholisi Diogelwch Gwybodaeth y Brifysgol a'r Polisi Dosbarthu a Thrin Gwybodaeth.  Os bydd unrhyw wrthdaro’n codi naill ai â’r Polisi Diogelu Gwybodaeth neu’r Polisi Dosbarthu a Thrin Gwybodaeth, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r Polisi Dosbarthu a Thrin Gwybodaeth fydd yn cael blaenoriaeth.

7.Dylid edrych ar y polisi hwn ochr yn ochr â gofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, deddfwriaeth Diogelu Data, ac unrhyw ganllawiau cysylltiedig.

Rolau a Chyfrifoldebau

8.Ysgrifennydd y Brifysgol yw Noddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol ar gyfer y polisi hwn ac mae’n gyfrifol am gymeradwyo’r angen i ddatblygu neu ddiwygio’r polisi hwn yn sylweddol, ac am sicrhau bod y polisi hwn yn cydymffurfio ac yn cael ei fonitro a’i adolygu yn unol â fframwaith polisi'r Brifysgol.

9.Mae'r Tîm Llywodraethu Corfforaethol ac Ysgrifenyddion y pwyllgorau yn gyfrifol am gymhwyso darpariaethau'r polisi i'w cofnodion pwyllgor priodol a rheoli'r wybodaeth a nodir yn y polisi hwn.

10.Bydd Ysgrifenyddion Pwyllgorau'r Brifysgol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn y Tîm Llywodraethu Corfforaethol yn cefnogi Ysgrifennydd y Brifysgol a'r tîm Llywodraethu Corfforaethol wrth weithredu'r polisi hwn.

11.Dylid cyfeirio unrhyw geisiadau am wybodaeth a gwmpesir o dan y polisi hwn at y Tîm Llywodraethu Corfforaethol yn y lle cyntaf.

Diffiniadau allweddol

12. Tîm Llywodraethu Corfforaethol: mae hwn yn cyfeirio at dîm Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol. Y cyswllt ar gyfer y Tîm Llywodraethu Corfforaethol mewn perthynas â'r polisi hwn yw Pwyllgorau@caerdydd.ac.uk.

13. Cofnodwr: yr unigolyn sy'n gyfrifol am ddrafftio'r cofnodion.

14. Awdur y papur: yr unigolyn sydd wedi ysgrifennu'r papur. Lle ceir nifer o awduron, hwn fydd yr unigolyn sy’n cyflwyno’r papur i’r Tîm Llywodraethu Corfforaethol.

15. Tîm Cydymffurfiaeth a Risg: yn cyfeirio at y tîm o fewn Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol sy'n rheoli diogelu data a cheisiadau am ddatgelu gwybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a deddfwriaeth gysylltiedig.

16. Cofnodion Llawn: yn dynodi'r set o gofnodion heb eu golygu.

17. Copi Cyhoeddadwy: sy'n dynodi bod y set o gofnodion neu bapur wedi'i hadolygu ac unrhyw olygiadau angenrheidiol wedi'u gwneud, er mwyn eu cyhoeddi.

Cyhoeddi Cofnodion

18.Bydd Copi Cyhoeddadwy o gofnodion y Cyngor, y Senedd a’r Pwyllgor Archwilio a Risg yn cael eu cyhoeddi fel mater o drefn ar wefan y Brifysgol, yn Gymraeg ac yn Saesneg, a bydd ar gael yn ddigidol.

19.Lle cyhoeddir cofnodion bydd hyn ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol, ynghyd â'r tair blynedd academaidd flaenorol. Tynnir cofnodion oddi ar y wefan pan fyddant y tu hwnt i’r amserlen hon.

Y broses ar gyfer cyhoeddi cofnodion

Cyhoeddi Cofnodion yn Rhagweithiol

20.Ar gyfer y Pwyllgorau hynny y bydd eu cofnodion yn cael eu cyhoeddi'n rhagweithiol, fel y rhestrir ym mharagraff 18 uchod, bydd y sawl sy'n cymryd y cofnodion yn cynhyrchu dwy set o gofnodion yn dilyn y cyfarfod; un set gyflawn o'r cyfarfod, sef y Copi Ffeil; ac un set sydd wedi ei golygu yn ôl yr angen, sef y Copi Cyhoeddadwy.

21.Bydd y Tîm Llywodraethu Corfforaethol/Ysgrifennydd y pwyllgor yn storio'r Copi Cyhoeddadwy (hy y fersiwn gydag unrhyw olygiadau angenrheidiol wedi'u gwneud) a'r Copi Ffeil o'r cofnodion.

Gwneud Golygiadau i Greu Copi Cyhoeddadwy

22.Mae Polisi Dosbarthu a Thrin Gwybodaeth y Brifysgol yn sail i nodi eitemau y gall fod angen eu golygu.  Mae Atodiad B yn nodi’r dosbarthiadau perthnasol ac enghreifftiau o sut y gallai hyn fod yn berthnasol i gofnodion a phapurau pwyllgorau.

23.Dylid hepgor rhannau o’r cofnodion sy’n cyfeirio at drafodaethau ynghylch papurau sydd yn y categori Cyfrinachol Iawn (C1) yn awtomatig. Fodd bynnag, dylai'r penderfyniad a'r teitl aros yn y Copi Cyhoeddadwy o'r cofnodion.

24.Dylid ystyried rhannau o’r cofnodion sy’n cyfeirio at bapurau sydd yn y categori Cyfrinachol (C2) a’u hepgor lle ystyrir bod hynny’n angenrheidiol yn unol â’r pwyntiau isod.

25.Os oes gan y sawl sy’n cymryd y cofnodion gwestiynau ynghylch hepgor rhannau, dylid cyfeirio’r rhain, yn y lle cyntaf, at Ysgrifennydd y Pwyllgor. Os oes angen ystyried ymhellach, dylid cyfeirio hyn at y Cadeirydd. Gellir ceisio cyngor hefyd gan y Tîm Llywodraethu Corfforaethol neu Ysgrifennydd y Brifysgol.

26.Os oes angen hepgor cofnod, dylid dileu’r rhan hon o’r cofnodion a rhoi [WEDI’I HEPGOR] neu [WEDI’I HEPGOR YN RHANNOL] yn ei lle.

27.Yn achos cyhoeddi arferol, bydd y cofnodion drafft wedi'u golygu yn cael eu cymeradwyo’n Gopi Cyhoeddadwy gan yr Ysgrifennydd, unwaith y bydd y Cadeirydd wedi cymeradwyo'r Copi Ffeil o’r cofnodion a'u bod wedi'u cadarnhau gan y Pwyllgor. Bydd y Copi Cyhoeddadwy yn cael ei gyhoeddi ar y wefan gan y Tîm Llywodraethu Corfforaethol, a bydd yn cydymffurfio â rheoliadau Safonau’r Gymraeg a Hygyrchedd.

Ceisiadau i ddatgelu'r Cofnodion Llawn

28.Lle mae person sydd wedi gwneud cais am ddatgelu cofnodion nad ydynt yn cael eu cyhoeddi fel mater o drefn:

  • nad yw'n aelod o'r pwyllgor hwnnw
  • ac nid yw ychwaith yn dal swydd y byddai copi ffeil o’r cofnodion yn cael eu dosbarthu iddi fel mater o drefn
  • nad yw’n Archwiliwr Mewnol nac Allanol

bydd yr Ysgrifennydd yn defnyddio'r polisi hwn i bennu'r angen i greu Copi Cyhoeddadwy, ac os felly, bydd yn cymhwyso'r golygiadau yn unol â'r polisi hwn. Yn yr amgylchiadau hyn gofynnir am gymeradwyaeth y Cadeirydd i ddatgelu'r Copi Cyhoeddadwy, a dim ond pan fydd y Copi Ffeil o’r cofnodion wedi'u cadarnhau gan y Pwyllgor y gwneir y datgeliad. Gellir gofyn am gyngor ar olygiadau yn yr achosion hyn gan y Tîm Llywodraethu Corfforaethol neu Ysgrifennydd y Brifysgol.

29.Yn achos ceisiadau am y Copi Ffeil o’r cofnodion gan berson:

  • nad yw'n aelod o'r pwyllgor hwnnw
  • ac nid yw ychwaith yn dal swydd y byddai copi ffeil o’r cofnodion yn cael eu dosbarthu iddi fel mater o drefn
  • nad yw’n Archwiliwr Mewnol nac Allanol

a lle nad yw'r sawl sy’n gwneud y cais yn fodlon â Chopi Cyhoeddadwy, dylai Ysgrifennydd y Pwyllgor ymdrin â'r cais yn unol â'r Datganiad o Bapurau ar Gais a nodir ym mharagraffau 40-44 isod.

Gwrthdaro rhwng Buddiannau

30.Gall fod achosion pan fydd angen hepgor rhannau o gofnodion a rennir ag aelodau Pwyllgor ar gyfer aelodau unigol oherwydd gwrthdrawiad buddiannau.

31.Os oes gan aelod Pwyllgor wrthdaro rhwng buddiannau ac na chaiff weld rhan o’r cofnodion oherwydd y gwrthdaro hwn, dylid tynnu’r rhan berthnasol o’r cofnodion a rhoi [WEDI’I HEPGOR] neu [WEDI’I HEPGOR YN RHANNOL] yn ei le.

32.Dylid rhannu’r cofnodion hyn wedi’u golygu â’r Ysgrifennydd a/neu’r Cadeirydd er mwyn cadarnhau bod y gwrthdaro rhwng buddiannau wedi’i reoli’n briodol. Bydd yr Ysgrifennydd yn sicrhau mai’r fersiwn wedi’i golygu’n unig, sy’n sôn yn benodol am wrthdaro rhwng buddiannau, y bydd yr unigolyn (unigolion) o dan sylw yn ei derbyn.

33.Ar gyfer cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Risg, dylid ystyried hepgor rhannau o’r cofnodion cyn i’r rhain gael eu rhannu ag archwilwyr mewnol ac allanol. Felly gall fod angen paratoi fersiynau ychwanegol ac wedi’u teilwra o’r cofnodion yn benodol i’r archwilwyr mewnol a’r archwilwyr allanol. Er enghraifft, bydd rhannau sy’n trafod penodi archwilwyr allanol a thalu archwilwyr mewnol yn cael eu hepgor.

Cyhoeddi Papurau Cyfarfodydd

34. Ni chyhoeddir papurau cyfarfodydd pwyllgorau ar y rhyngrwyd neu’r fewnrwyd fel mater o drefn. Bydd ceisiadau am ddatgelu papurau yn cael eu cyfeirio at Committees@caerdydd.ac.uk yn y lle cyntaf.

Y Broses o Ddosbarthu Papurau

35. Mae dosbarthiadau papur yn llywio’r broses ddatgelu ac maent yn dilyn y categorïau a nodir yn y Polisi Dosbarthu a Thrin Gwybodaeth:

  • Cyfrinachol Iawn (C1)
  • Cyfrinachol (C2)
  • Heb fod yn gyfrinachol

36. Ychwanegir “HC” (Highly Confidential) ar ôl rhif y papurau sy’n Gyfrinachol Iawn (C1).  Ychwanegir “C” (Confidential) ar ôl rhif y papurau sy’n Gyfrinachol (C2).

37. Caiff papurau eu dosbarthu gan eu hawduron ar adeg eu cyflwyno i Fwrdd Gweithredol y Brifysgol (yna cadarnheir y dosbarthiad gan noddwr y Bwrdd Gweithredol) a/neu ar adeg eu cyflwyno i ysgrifennydd y Pwyllgor.  Os bydd aelod o’r tîm Llywodraethu Corfforaethol o’r farn y gallai papur fod wedi’i ddosbarthu’n anghywir ar adeg ei gyflwyno i’r Pwyllgor, codir hyn gydag awdur y papur yn y lle cyntaf a’i ddatrys gyda’r Ysgrifennydd a/neu’r Cadeirydd yn ôl yr angen cyn cyhoeddi'r papurau.

38. Bydd pob unigolyn sy’n ymdrin â phapurau yn gyfrifol am gymhwyso’r rheolau ymdrin â gwybodaeth priodol i bob categori o wybodaeth, a gofyn am eglurhad neu gyngor gan reolwr llinell neu’r Tîm Cydymffurfiaeth a Risg (ComplianceandRisk@caerdydd.ac.uk) os nad yw’n siŵr sut i ddosbarthu neu ymdrin â gwybodaeth. Rhoddir enghreifftiau o wybodaeth sy’n dod o fewn categorïau C1 a C2 yn Atodiad B.

Rhyddhau Papurau ar Gais

39.Gellir rhyddhau papurau yn y categori Heb fod yn Gyfrinachol yn fewnol neu’n allanol ar gais, yn amodol ar olygu unrhyw ddata personol mewn datgeliadau allanol.

40.Wrth adolygu’r broses o ryddhau Papurau Cyfrinachol i’r rhai nad ydynt yn aelodau pwyllgor nac yn dal swydd y dosberthir y papurau iddynt fel mater o drefn, rhaid ystyried a yw unrhyw rai o’r amodau a greodd gyfrinachedd ar adeg eu dosbarthu wedi newid ers hynny e.e. mae'r wybodaeth bellach yn y parth cyhoeddus. (Y papurau Cyfrinachol yw’r rhai sydd â rhifau papur ac yna C neu HC, papurau sydd fel arall wedi’u marcio’n ‘gyfrinachol’ a chofnodion heb eu golygu nad ydynt yn cael eu cyhoeddi fel mater o drefn.)

41.Bydd Papurau Cyfrinachol yn cael eu rhyddhau ar gais yn allanol i’r Brifysgol yn unig lle bo hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith e.e. oherwydd gofyniad Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (oni bai bod y sawl sy’n gwneud y cais allanol yn aelod o’r pwyllgor neu’n dal swydd y dosberthir y papurau iddi fel mater o drefn gan gynnwys Archwilwyr Allanol ac Archwilwyr Mewnol Allanol). Rheolir y cais yn unol â darpariaethau’r Ddeddf a gweithdrefnau cysylltiedig y Brifysgol, yn unol â chyfarwyddyd y Tîm Cydymffurfiaeth a Risg yn Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol.

42.Gellir rhannu Papurau Cyfrinachol ar gais yn fewnol os yw’r sawl sy’n gwneud y cais:

  • yn aelod o'r pwyllgor a dderbyniodd y papur
  • yn dal swydd y byddai'r papur fel arall wedi'i ddosbarthu iddi fel mater o drefn
  • yn Archwilydd Mewnol neu

43. Ym mhob achos arall gellir rhannu Papurau Cyfrinachol yn fewnol ar gais, fel y cytunir gan Ysgrifennydd y Brifysgol a all ofyn am farn:

  • noddwr UEB – neu lle nad oes noddwr UEB, yr hynaf o awdur y papur a chyflwynydd y papur (lle bo’n wahanol),
  • Ysgrifennydd y Pwyllgor a/neu Gadeirydd y Pwyllgor

a bydd yn cymryd i ystyriaeth unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol yn ymwneud â datgelu.

Tabl Hanes Rheoli a Newidiadau i’r Polisi

44. Rheoli Fersiynau

Enw’r Ddogfen

Polisi Cyhoeddi Paparau a Chofnodion Pwyllgor

Noddwr y Polisi ym Mwrdd Gweithredol y Brifysgol

Ysgrifennydd y Brifysgol

Perchennog y Polisi (lle bo'n berthnasol)

Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol, Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol

Awdur(on) y Polisi

Ruth Davies, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol, Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol

Katy Dale, Cynghorydd Llywodraethu

Rhif y Fersiwn

Fersiwn 3

Dyddiad Cwblhau Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a'r Gymraeg

Ionawr 2023

Dyddiad cwblhau'r Asesiad Preifatrwydd (lle bo'n berthnasol)

Ionawr 2023

Dyddiad Cymeradwyo

6 Chwefror 2024

Cymeradwywyd Gan

Yr Is-Ganghellor (Bwrdd Gweithredol y Brifysgol) Ionawr 2023

Newidiadau gan Ysgrifennydd y Brifysgol Chwefror 2024

Dyddiad Gweithredu

 

Dyddiad yr Adolygiad Diwethaf

Chwefror 2024

Dyddiad yr Adolygiad Nesaf

Chwefror 2027

At Ddefnydd y Swyddfa – Allweddeiriau ar gyfer y nodwedd chwilio

Papurau pwyllgor, datgelu, cyhoeddi, cyfrinachedd

45. Hanes y newidiadau

Fersiwn wedi'i ddiwygio ac adolygwyr

Disgrifiad o'r Newid

Crëwyd y fersiwn

Fersiwn 2 - Tîm Llywodraethu Corfforaethol

46. Trwy   gydol y ddogfen – newid y term 'copi llawn' i ‘Copi Ffeil’ a dolenni   gwe/cyfeiriadau e-bost wedi'u diweddaru

47. Paragraff   5 - cyfeiriad at Ordinhad 11 a'r Cynllun Cyhoeddi wedi'i ddiweddaru i   adlewyrchu newidiadau i ddogfennau ffynhonnell perthnasol

48. Paragraff 8 – gwelliant i adlewyrchu   dirprwyaeth gan yr Is-Ganghellor i wneud mân ddiwygiadau i bolisïau

49. Fformat rheoli fersiwn wedi’i diweddaru   i adlewyrchu templed polisi newydd

50. Diweddarwyd Atodiad B i gyd-fynd â   diwygiadau i ddiffiniadau Dosbarthiad Gwybodaeth y Brifysgol ar gyfer   gwybodaeth C1 a C2

Fersiwn 3

Atodiad A

Mae'r Pwyllgorau y mae'r polisi hwn yn berthnasol iddynt wedi'u rhestru isod.

Rhestrir Cadeirydd ac Ysgrifennydd y rhan fwyaf o bwyllgorau ar wefan y Brifysgol.  Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â Committees@caerdydd.ac.uk

Enw'r Pwyllgor

Ysgrifennydd

Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd

Heb ei benodi (Pennaeth Arweinyddiaeth a Datblygu Staff ar hyn o bryd)

Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd

Heb ei benodi (Pennaeth Llywodraethu Addysg ar hyn o bryd)

Pwyllgor Archwilio a Risgiau

Ysgrifennydd y Brifysgol

Pwyllgor Safonau Biolegol

Cyfarwyddwr Gwasanaethau a Safonau Biolegol

Y Cyngor

Ysgrifennydd y Brifysgol

Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Heb ei benodi (Pennaeth Cydymffurfiaeth a Risg ar hyn o bryd)

Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr

Heb ei benodi (Pennaeth Llywodraethu Addysg ar hyn o bryd)

Is-bwyllgor Cynaliadwyedd Amgylcheddol

Enwebwyd gan y Cadeirydd

Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau

Ysgrifennydd y Brifysgol

Pwyllgor Addasu Genetig ac Asiantau Biolegol

Cynghorydd Diogelwch Biolegol

Pwyllgor Llywodraethu

Ysgrifennydd y Brifysgol

Is-bwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles

Enwebwyd gan y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

Pwyllgor Cymrodoriaethau a Graddau er Anrhydedd

Heb ei benodi (Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata ar hyn o bryd)

Is-Bwyllgor Buddsoddiadau a Bancio

Prif Swyddog Ariannol

Is-bwyllgor Enwebiadau

Ysgrifennydd y Brifysgol

Pwyllgor Gonestrwydd a Moeseg Ymchwil Agored

Heb ei benodi (Pennaeth Gonestrwydd Ymchwil, Llywodraethu a Moeseg ar hyn o bryd)

Pwyllgor Cyflogau Athrawon ac Uwch-aelodau Staff

Partner Busnes AD (Polisi a Phrosiectau), neu aelod arall o AD

Pwyllgor Diswyddiadau

Heb ei benodi (Rheolwr Cysylltiadau Staff ar hyn o bryd)

Pwyllgor Taliadau

Pennaeth Arweinyddiaeth a Datblygiad Staff, neu aelod arall o AD

Y Senedd

Cofrestrydd Academaidd

Atodiad B

Dosbarthiad Gwybodaeth

Gwybodaeth i’w hepgor

Enghreifftiau

Cyfrinachol Iawn (C1)

51.Data preifat neu ddata personol hynod sensitif am unigolion byw neu sydd wedi marw a allai ddatgelu pwy yw’r unigolion hynny
52.Data nad yw’n gyhoeddus sy’n ymwneud â gweithgarwch busnes a allai gael effaith ddifrifol ar fuddiannau masnachol neu enw da corfforaethol
53.Gwybodaeth nad yw’n gyhoeddus sy’n hwyluso diogelu diogelwch personol neu, swyddogaethau hanfodol ac asedau allweddol.
54.Ymchwil sy’n sensitif o ran diogelwch

55.Trafodaethau ynghylch tribiwnlysoedd, cwynion cyflogaeth, materion ynglŷn â disgyblu, cwynion a diswyddiadau lle rhoddir manylion
56.Trafodaethau ynghylch materion cyfredol o ran digwyddiadau, ymchwiliadau, archwiliadau a thwyll posibl lle rhoddir manylion
57.Cyfeiriadau at drafodaethau ag Undebau Llafur lle na ddaethpwyd i gytundeb
58.Cyfeiriadau at fethiannau difrifol ym mherfformiad unigolion a gyflogir gan y Brifysgol neu drydydd parti sy'n gweithio gyda'r Brifysgol
59.Cyfeiriadau at gynlluniau diswyddo neu leihau staff
60.Cyfeiriadau at roddion a wnaed i’r Brifysgol nad ydynt yn wybodaeth gyhoeddus eto neu sy’n ddienw
61.Cyfeiriadau at gyflwr neu hanes meddygol unigolyn
62.Cyfeiriadau at ymchwil a all fod yn sensitif o ran diogelwch
63.Trafodaethau ar wariant y gronfa bond lle nad yw eisoes yn gyhoeddus
64.Trafodaethau ynghylch prosiectau ystadau posibl nad ydynt eto wedi’u ffurfioli mewn achos busnes
65.Manylion ymchwil sy'n ymwneud â materion diogelwch cenedlaethol neu fanylion ymchwil sy'n ymwneud â defnyddio anifeiliaid mewn gweithdrefnau gwyddonol

Cyfrinachol (C2)

66.Gwybodaeth breifat am unigolion byw neu sydd wedi marw a allai ddatgelu pwy yw’r unigolion hynny

67.Data nad yw’n gyhoeddus sy’n ymwneud â gweithgarwch busnes a allai gael effaith ar fuddiannau ariannol neu elfennau ar enw da’r Brifysgol

68.Gwybodaeth nad yw’n gyhoeddus sy’n diogelu asedau’r Brifysgol yn gyffredinol

69.Cyflogau a buddion staff, penodiadau i rolau newydd, ac ati, nad ydynt eisoes yn y parth cyhoeddus
70.Trafodaethau ynghylch partneriaethau strategol posibl nad ydynt wedi’u cadarnhau eto
71.Trafodaethau ynghylch newidiadau neu addasiadau i’r Cynllun Meistr Ystadau cyfredol nad ydynt yn wybodaeth gyhoeddus eto
72.Manylion am gynigion tendr neu gontractau na ddyfernir hyd yn hyn
73.Cyfeiriadau at ddisgwyliadau’r gyllideb bresennol a rhagolygon ariannol a ddarparwyd cyn cyhoeddi cyfrifon blynyddol y Brifysgol (gan gynnwys gwariant cyfalaf, gwariant gweithredu, llif arian a refeniw)
74.Trafodaeth ar gyfeiriad strategol a blaenoriaethau heb eu cymeradwyo'n ffurfiol eto
75.Manylion cronfeydd wrth gefn y Brifysgol

Heb fod yn Gyfrinachol

  • Gwybodaeth nad yw yn y categorïau uchod
  • Nid oes angen hepgor gwybodaeth yr ystyrir nad yw’n gyfrinachol.

Tabl Rheoli Fersiwn

Enw’r Ddogfen

Polisi Cyhoeddi Paparau a Chofnodion Pwyllgor Prifysgol Caerdydd

Noddwr Polisi UEB

Ysgrifennydd y Brifysgol

Perchennog Polisi

Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol

Awdur(on) polisi

Ruth Davies, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol

Katy Dale, Cynghorydd Llywodraethu

Rhif y Fersiwn

Fersiwn 2

Canlyniad yr Effaith ar Gydraddoldeb a Dyddiad Cyflwyno’r Ffurflen

Mae'r ddogfen hon wedi'i hadolygu i sicrhau hygyrchedd a bydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ac ar ffurf hygyrch yn y ddwy iaith. Nid yw cyhoeddi cofnodion yn unol â’r polisi hwn yn cael effaith andwyol ar unrhyw grwpiau â nodweddion gwarchodedig.

 

Canlyniad yr Effaith ar Ddiogelwch Data a Dyddiad Cyflwyno’r Ffurflen

Nod y polisi hwn yw sicrhau yr ymdrinnir â data sensitif neu gyfrinachol yn unol â pholisïau'r Brifysgol a rheoliadau allanol angenrheidiol.  

 

Dyddiad Cymeradwyo

10 Ionawr 2023

Cymeradwywyd Gan

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol

Dyddiad Gweithredu

11 Ionawr 2023

Dyddiad yr Adolygiad Diwethaf

Tachwedd 2022

Dyddiad yr Adolygiad Nesaf

Rhagfyr 2024

At Ddefnydd Swyddfa – Allweddeiriau ar gyfer swyddogaethau chwilio

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Polisi Cyhoeddi Paparau a Chofnodion Pwyllgor Prifysgol Caerdydd
Awdur(on):Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol
Rhif y fersiwn:3
Dyddiad cymeradwyo:06 Chwefror 2024
Cymeradwywyd gan:Ysgrifennydd y Brifysgol (dirprwyaeth yr Is-Ganghellor)
Dyddiad dod i rym:06 Chwefror 2024
Dyddiad yr adolygiad nesaf:Chwefror 2027
Fersiwn y mae'n ei disodli:2