Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydym yn hynod falch o gymuned ein hysgol ddeintyddol, sy’n cynnwys staff a myfyrwyr o bob rhan o’r byd, sy’n dod â phrofiadau, safbwyntiau a syniadau gwerthfawr i’n hamgylchedd dysgu.
Rydym wedi ymrwymo i gynnig amgylchedd dysgu a gweithio cynhwysol ac ysbrydoledig lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi, ei glywed a'i werthfawrogi.

Dathlu amrywiaeth
Mae ein gwyliau bwyd, a drefnir gan fyfyrwyr yn yr ysgol ddeintyddol gyda chefnogaeth staff y brifysgol, yn gyfle gwych i ddathlu gwyliau diwylliannol o bedwar ban byd.
Mae dathlu gwyliau fel Pride, Diwali, y Flwyddyn Newydd Leuadol, Dydd Gŵyl Dewi ac Eid yn gyfle gwych i’n staff a’n myfyrwyr ddysgu am wahanol ddiwylliannau, rhwydweithio gyda chyfoedion a blasu bwyd blasus.
“Mae symud oddi cartref yn anodd i bawb, ond i mi fe’i gwnaed yn llawer haws trwy wneud rhwydwaith anhygoel o ffrindiau. Rydyn ni i gyd yn gefnogol iawn i'n gilydd ac yn helpu ein gilydd os oes unrhyw un yn cael trafferth."

Ymgysylltu â'r gymuned
Ein gweledigaeth yw bod pob myfyriwr, waeth beth fo'i gefndir neu ei brofiad personol, yn cael ei ysbrydoli i ystyried addysg uwch a gyrfa fel gweithiwr deintyddol proffesiynol.
Mae ein staff a’n myfyrwyr yn defnyddio eu hystod eang o arbenigedd i gefnogi a chyflwyno digwyddiadau hybu iechyd y geg mewn ysgolion a chymunedau lleol, gan gynnwys y rhai sy’n ddifreintiedig yn economaidd-gymdeithasol, ac sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y maes deintyddol. Rydym yn canolbwyntio ar weithdai atal iechyd y geg ac yn cyflwyno pobl ifanc i yrfaoedd ym maes deintyddiaeth i annog ehangu cyfranogiad.
Mae hyn yn cynnwys ein prosiect 'Talking Teeth', prosiect cydweithredol rhwng staff a myfyrwyr a sefydlwyd gan Dr Shannu Bhatia. Mae'r gwirfoddolwyr, sy'n cynnwys myfyrwyr deintyddol presennol, yn ymweld ag ysgolion cynradd i gyflwyno gweithdai iechyd y geg hwyliog a rhyngweithiol. Maent hefyd yn ymweld ag ysgolion uwchradd ledled Caerdydd i gyflwyno gyrfaoedd mewn deintyddiaeth, hylendid deintyddol a therapi deintyddol, a pham ei fod yn llwybr gyrfa mor werth chweil.
Gwobr Athena SWAN
Dyfarnwyd Arian Athena SWAN i ni yn 2021, a adeiladodd ar ein Gwobrau Efydd yn 2015 a 2010.
Dyfarnwyd ein Gwobr Arian Athena SWAN gyfredol i gydnabod ein hymrwymiad parhaus i ddarparu amgylchedd cefnogol i’r holl staff i gyflawni eu potensial, gan gydnabod y rôl y maent yn ei chwarae yn yr Ysgol, a’u cefnogi i gymryd perchnogaeth o’u gyrfa.
Gan edrych ymlaen at y dyfodol, byddwn yn gweithio tuag at:
- datblygu llwybrau datblygu gyrfa fel y gall staff dyfu’n broffesiynol a gwerthfawrogi’r rôl y maent yn ei chwarae yn yr Ysgol
- cefnogi datblygiad gyrfa a dilyniant yr holl staff ymchwil a myfyrwyr, i feithrin amgylchedd ymchwil cyfeillgar, cynhwysol a chefnogol
- hyrwyddo ethos ar gyfer dysgu gydol oes, cyflogadwyedd a lles yn y gweithle deintyddol
- sicrhau bod aelodau newydd o staff a’r rhai sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb estynedig yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi
- sicrhau bod myfyrwyr a staff yn teimlo eu bod yn rhan o ddiwylliant cyfeillgar, croesawgar a chynhwysol, sy’n gwerthfawrogi barn ac yn gwrando ar bryderon
"Mae'r wobr arian yn dangos y gefnogaeth a roddwyd i staff sy'n ymgymryd â gweithgareddau ymchwil, addysgu neu gymorth gweinyddol. Roedd ein cais wedi'i seilio'n gryf o amgylch gweledigaeth a strategaeth ein hysgol, a'n cynllun ar gyfer camau parhaus i gefnogi pob aelod o staff i gyflawni i'w llawn botensial"

Cefnogi ein staff a myfyrwyr
Mae lles ein staff a’n myfyrwyr yn bwysig iawn i ni, ac rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd gweithio a dysgu lle teimlwn ein bod yn cael cefnogaeth a bod rhywun yn gwrando arnom bob amser.
Mae’r Ysgol wedi penodi Cyfarwyddwr Materion Staff a Myfyrwyr, Hyrwyddwr Dychwelyd i’r Gwaith, a Hyrwyddwr Anabledd i gefnogi staff a myfyrwyr ar draws ein Hysgol.
Mae tîm o gysylltiadau Urddas a Lles hefyd wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad i staff, ac mae gennym system bwrpasol yn ei lle i gefnogi gofal bugeiliol ein myfyrwyr, gan gynnwys darparu tiwtoriaid personol ar gyfer pob myfyriwr.
"Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad cynhwysol lle mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu hannog, eu parchu a'u dathlu. Amgylchedd cefnogol lle gall pob myfyriwr ffynnu, mae pob aelod o staff yn cael ei barchu, ac mae pob claf yn cael ei drin ag urddas"
Cydraddoldeb hiliol
Does dim lle i hiliaeth yn ein Hysgol, ac rydym wedi ymrwymo i beidio â goddef hiliaeth a gwahaniaethu.
Yn dilyn argymhellion gan ein gweithgor Cydraddoldeb Hiliol, rydym wedi ymwreiddio EDI yn ein strategaeth Ysgol.
Er enghraifft, mae pwyllgor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) wedi'i sefydlu yn yr Ysgol, ac rydym wedi penodi Hyrwyddwr Cydraddoldeb Hiliol. Mae hefyd yn ofynnol i bob aelod o staff gwblhau modiwl hyfforddiant EDI a rhagfarn ddiarwybod.
Rydym yn aelod o Athena Swan, sy'n cydnabod ein hymroddiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth.