Y Gymraeg
Bydd gallu siarad Cymraeg yn ddefnyddiol iawn yn ystod eich cwrs a drwy gydol eich gyrfa ym maes deintyddiaeth a gofal iechyd yng Nghymru. Mae sgiliau dwyieithog yn bwysig i gynnig y gofal gorau posibl i gleifion ledled Cymru.
Gwyliwch ein fideo Cymraeg am yr Ysgol Deintyddiaeth
Mae'r Ysgol Deintyddiaeth yn ymrwymedig i wella cyfleoedd i fyfyrwyr ddefnyddio'r Gymraeg. P'un a ydych chi'n medru’r Gymraeg neu'n awyddus i ddysgu, mae llawer o gyfleoedd ar gael i gefnogi a defnyddio eich sgiliau Cymraeg, gan gynnwys:
- tiwtor personol sy'n medru’r Gymraeg yn rhan o'ch gofal bugeiliol
- cyfleoedd i ysgrifennu aseiniadau neu sefyll arholiadau ysgrifenedig yn Gymraeg, os ydych yn dymuno
- mynediad at gyfleoedd a gynigir gan Gangen Caerdydd o‘r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddefnyddio a datblygu eich sgiliau Cymraeg
- clybiau cymdeithasol a chwaraeon ar gyfer myfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg
- cyrsiau iaith Cymraeg i Bawb er mwyn datblygu eich sgiliau Cymraeg
- cyfle i rannu llety â siaradwyr Cymraeg eraill
- cyfleoedd am swyddi rhan-amser i fyfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg.
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Ein Cangen Caerdydd o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu addysg gyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol. Gyda chefnogaeth ar gael gan ein cangen o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gallwch:
- gael ysgoloriaethau hyd at £3000
- bod yn un o Lysgenhadon y Coleg Cymraeg
- astudio ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg
- dod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith.
Cymraeg i Bawb
Credwn y dylech gael y cyfle i ddysgu ieithoedd newydd wrth astudio gyda ni. Mae ein rhaglen Cymraeg i Bawb yn cynnig cyrsiau wythnosol a dwys.
Cysylltwch â ni
Os hoffech chi siarad â rhywun am astudio Deintyddiaeth neu Therapi Deintyddol a Hylendid a'r Gymraeg, cysylltwch â'n Rheolwr Darpariaeth Cymraeg: