Ewch i’r prif gynnwys

Sector y sgrîn yn derbyn hwb ariannol gwyrdd

20 Medi 2023

Gall gweithwyr proffesiynol a chwmnïau sy'n gweithio yn niwydiannau’r sgrîn wneud cais am gyllid newydd i gynyddu eu gwaith ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol.

Mae Media Cymru, sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd, a Ffilm Cymru Wales yn gweithio ar y cyd ar gronfa newydd Gwyrddio’r Sgrîn sy’n werth £600,000. Gall sefydliadau sydd wedi'u lleoli ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wneud cais am hyd at £250,000 i leihau eu heffaith negyddol ar yr amgylchedd.

Mae'r gronfa, a reolir gan Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), yn canolbwyntio ar brosiectau ymchwil a datblygu sydd â'r potensial i sicrhau newid cadarnhaol a hirdymor ym mhob rhan o’r sector.

Dywedodd Cynhyrchydd Ymchwil a Datblygu Media Cymru, Greg Mothersdale, sy'n arwain ar gynaliadwyedd amgylcheddol: "Mae'n amlwg ei bod yn flaenoriaeth i sector y sgrîn leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwastraff materol. Rydym yn chwilio am atebion tymor hir i heriau'r diwydiant o gyrraedd sero net.

"Mae ein Cronfa Gwyrddio'r Sgrîn yn cefnogi ymchwil a datblygu atebion arloesol sy'n mynd i'r afael â'r heriau hyn, ac rydym yn annog ceisiadau gan unrhyw ddiwydiant a allai gydweithio â sector y sgrîn er mwyn gwneud hynny."

Meddai Louise Dixey, Rheolwr Cynaliadwyedd Ffilm Cymru Wales: "Mae'n amser cyffrous i fynd i'r afael â chynaliadwyedd yn niwydiant y sgrîn ar y cyd ac mae'r gronfa sylweddol hon yn cefnogi'r blaenoriaethau a nodwyd yn adroddiad Bargen Newydd Sgrîn BFI a BAFTA albert. Mae gan y diwydiant cynhyrchu ffilm a theledu gyfle heb ei ail i fod yn gatalydd newid."

Gwaith ar y cyd yw Media Cymru i droi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolfan fyd-eang ar gyfer arloesedd yn y cyfryngau gan ganolbwyntio ar dwf economaidd gwyrdd a theg.

Bydd ceisiadau ar gyfer Cronfa Gwyrddio’r Sgrîn ar agor rhwng 18 Medi a 1 Tachwedd 2023, gyda phrosiectau'n dechrau o 1 Ebrill 2024. Dysgwch ragor a sut i wneud cais yn www.ffilmcymruwales.com