Ewch i’r prif gynnwys

Defnyddio gwyddoniaeth a storïau fel symbyliad wrth wneud penderfyniadau: creu senarios drwy wyddoniaeth sychder 'fesul tamaid' a byrddau stori arferion dŵr gan Liz Roberts

Dydd Gwener, 15 Chwefror 2019
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae'r cyflwyniad hwn yn amlinellu'r llwyddiannau a'r heriau o ddefnyddio dull 'naratif gwyddoniaeth' i ymgysylltu â chymunedau o ran y risg o sychder yn y DU. Mae galw cynyddol am ddulliau adrodd storïau yn y DU er mwyn ennyn dulliau mwy ystyrlon o gyfranogi ac fel rhan o brosesau ymgysylltu cyhoeddus i wneud ymchwil yn fwy hygyrch a diddorol i gynulleidfaoedd ehangach, anacademaidd. Mae hynny ochr yn ochr â galwad i ddemocrateiddio gwybodaeth wyddonol ac ailfeddwl y ffordd y caiff gwybodaeth ei phrosesu, gan ymgorffori modelau cyd-gynhyrchu.

Datblygodd y prosiect 'Drought Risk and You' gyfres o ddulliau creadigol i ddwyn gwybodaeth leol, leyg ac arbrofol i'r sffêr sydd wedi'i ddominyddu'n dechno-wyddonol o ran rheoli'r risg o sychder yn y DU. Cafodd hynny ei gynnal drwy ymgysylltiad parhaus â rhanddeiliaid dros bedair blynedd ar lefel dalgylch afonydd, lle dygwyd storïau i'r un lle â ffurfiau gwahanol o wyddoniaeth sychder. Cynhyrchodd modelu hydrolegol, gan ymgorffori defnydd o dir, rheoli dalgylchoedd a newidiadau i'r hinsawdd, senarios sychder yn y dyfodol. Efelychwyd amodau sychder drwy arbrofion ar raddfa mesocosm ar laswelltiroedd y DU ar dri safle maes, a'u monitro gan ddinasyddion sy'n wyddonwyr, ac ar gnydau sy'n gallu goresgyn sychder, fel lucerne a cwinoa, o'u cymharu â chnydau sy'n tyfu'n fwy cyffredin yn y DU. Bydd y cyflwyniad yn amlygu'r modd y cyfnewidiwyd gwyddoniaeth sychder a storïau er mwyn cynyddu parodrwydd a gwydnwch o ran y perygl o sychder yn y DU.

Oni nodir fel arall, mae pob seminar PLACE yn cael ei chynnal rhwng 12pm a 1pm yn ystafell 0.01, 33 Plas y Parc. Mae'r seminarau'n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.