Ewch i’r prif gynnwys

Diwylliant Cymeriadau yn Japan a Killing Commendatore gan Murukami Haruki

Dydd Mercher, 24 October 2018
Calendar 16:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Darlith gan Akihiko Shimizu (Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Caerdydd), yn rhan o gyfres Seminarau Astudiaethau Japan.

Crynodeb

Bydd y ddarlith hon yn ystyried ystyr ‘cymeriad’ yn niwylliant a llenyddiaeth Japan.  Yn y rhan gyntaf, bydd y defnydd cynyddol o gymeriadau a masgotau yn Japan heddiw yn cael ei drafod, gydag eglurhad o sut maen nhw’n gweithio a sut maen nhw’n effeithio ar gymdeithas.  Er mwyn rhoi’r diwylliant cymeriadau yn ei gyd-destun, trafodir portreadau hanesyddol cymeriadau yn Japan yn y cyfnod modern cynnar, gan ddefnyddio enghreifftiau o dorluniau pren Ukiyo-e o’r cyfnod Edo. Bydd y ddarlith yn dangos sut, drwy gydol hanes, mae’r wyneb yn dod yn elfen anhepgorol wrth lunio cymeriadau a’u natur.

Yn ail hanner y ddarlith, bydd agweddau llenyddol y cymeriad a’r wyneb yn cael eu hystyried. Er mwyn taflu goleuni ar y ffordd y mae cymeriadau yn cael eu llunio mewn gwaith llenyddol o Japan, bydd y ddarlith yn trafod nofel ddiweddaraf Haruki Murakami, Killing Commendatore (2017). Gan ganolbwyntio ar sut mae Murakami’n fframio’r prif gymeriadau yn y nofel, bydd y ddarlith yn ystyried sut mae portreadau rhethregol o’r wyneb yn chwarae rôl allweddol wrth gysylltu dychymyg llenyddol â’r diwylliant cymeriadau cyfredol.

Bywgraffiad

Ymunodd Akihiko Shimizu â Phrifysgol Caerdydd yn ddiweddar yn ddarlithydd Japaneeg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. O Kyoto, Japan, yw Aki’n wreiddiol, a gwnaeth MA mewn Llenyddiaeth y Dadeni Dysg ym Mhrifysgol Caer Efrog. Wedyn, gwnaeth PhD ym Mhrifysgol St Andrews  am ddramodydd Saesneg Modern, Ben Jonson. Roedd ei thesis yn archwilio’r cysyniad a’r fethodoleg wrth lunio cymeriadau yn llenyddiaeth Jonson. Mae diddordebau ymchwil Aki yn ymwneud â’r agweddau diwylliannol a’r portreadu rhethregol ynghlwm wrth gymeriadau yn Lloegr a Japan yn y cyfnod modern cynnar. Mae ei ymchwil bresennol wedi’i hysbrydoli gan y ddamcaniaeth o gymeriadau, ac yn ystyried y goblygiadau trawsddiwylliannol ar gyfer yr wyneb o ran rhethreg gymeriadau.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 10 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.