Ewch i’r prif gynnwys

Tu hwnt i gontractio: stiwardiaeth gwasanaeth cyhoeddus i uchafu gwerth cyhoeddus

Dydd Mawrth, 5 Chwefror 2019
Calendar 17:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

head and cog wheels

Hoffem eich gwahodd i fynychu ein digwyddiad sydd i ddod ar gaffael cyhoeddus, stiwardiaeth gwasanaethau cyhoeddus a chontractau allanol yng Nghymru. Y bwriad yw llywio a sbarduno trafodaeth ddinesig am ddyfodol caffael cyhoeddus yng Nghymru a chyfrannu rhai syniadau ar gyfer datblygu strategaeth genedlaethol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei lywio gan banel o arbenigwyr yn ogystal â’n hadroddiad sydd ar ddod ac mae wedi’i anelu at uwch arweinwyr ac arweinwyr strategol mewn cyrff ac awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Caiff ei gadeirio gan yr Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a bydd yn cynnwys trafodaeth panel gyda digon o gyfleoedd i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau. Byddem yn annog eich cyfranogiad myfyriol.

Panel:

  • Benoit Guerin, Uwch Ymchwilydd yn y Sefydliad ar gyfer Llywodraethu
  • Liz Lucas, Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol a chyn-Bennaeth Caffael yng Nghyngor Caerffili
  • John Tizard, sylwebydd annibynnol a chyd-awdur yr adroddiad
  • I’w gadarnhau
  • Cadeirydd: Yr Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Cyrraedd o 4.30yp ymlaen
Dechrau'r drafodaeth banel am 5.00yh

Diod a rhwydweithio am 6.15yh

Gorffen erbyn 7.00yh

Gweld Tu hwnt i gontractio: stiwardiaeth gwasanaeth cyhoeddus i uchafu gwerth cyhoeddus ar Google Maps
Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn