Ewch i’r prif gynnwys

Derbyniad Graddio’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

Dydd Iau, 19 Gorffennaf 2018
Calendar 14:30-16:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

School of Physics and Astronomy graduation reception

I ddathlu eich llwyddiant yn dilyn yr orymdaith yn Neuadd Dewi Sant, bydd yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn croesawu graddedigion a’u gwesteion i dderbyniad a seremoni wobrwyo a gynhelir mewn pabell y tu allan i’r Prif Adeilad. Bydd y lluniaeth eleni yn cynnwys canapés, cacennau bach i ddathlu, gwin pefriog a diodydd ysgafn. Hefyd, bydd stondinau bwyd a diod ychwanegol yno memorabilia ar werth.

Bydd darpar raddedigion yn cael hyd at dri thocyn am ddim ar gyfer y derbyniad (hynny yw un gyfer y myfyriwr graddedig a dau ar gyfer gwesteion). Byddwn yn cadw llygad ar nifer y tocynnau sy’n cael eu cadw, felly peidiwch â chael mwy na thri thocyn. Gellir gofyn am docynnau i hyd at ddau o westeion ychwanegol ar gyfer y Derbyniad (nid y seremoni raddio ei hun) gan y Swyddfa Addysg, a hynny drwy ebost (physics-ug@caerdydd.ac.uk). Codir tâl o £10 y pen ar gyfer gwesteion ychwanegol, bydd mynediad am ddim i blant o dan 11. Gellir casglu tocynnau o’r Swyddfa Addysgu ar ôl 11 Mehefin

Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu tocynnau ac yn rhoi gwybod i physics-ug@caerdydd.ac.uk am unrhyw ofynion dietegol arbennig erbyn dydd Sul 1 Gorffennaf 2018.

Gofynnir i’r graddedigion wisgo eu capiau a’u gwisgoedd graddio i’r digwyddiad.

Gweld Derbyniad Graddio’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ar Google Maps
Marquee in grounds
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn