Derbyniad Graddio’r Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Bydd yr Ysgol Optometreg yn cynnal digwyddiad ar ôl y seremoni raddio mewn pabell ar lawnt flaen Prif Adeilad y Brifysgol. Bydd y digwyddiad yn dechrau yn brydlon am 12 lle bydd y gwesteion yn mwynhau gwin pefriog, canapés a llawer o ddanteithion bychain eraill.
Bydd gennym ffotograffydd i gofnodi atgofion arbennig y digwyddiad a bydd yr Ysgol yn hapus i anfon y lluniau ymlaen atoch maes o law.
Bydd y digwyddiad yn gorffen am 1.30pm ac fe all y gwesteion ddefnyddio’r cyfleusterau y tu allan i’r babell wedi hynny.
Bydd pob un o’r graddedigion yn derbyn tri thocyn am ddim i’r digwyddiad. Gellir prynu tocynnau ychwanegol am £12.50 yr un. Anfonwch ebost at optomschooloffice@caerdydd.ac.uk i gadarnhau.
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT