Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd Ryngwladol RM4L2020

Calendar Dydd Llun 14 Medi 2020, 09:00-Dydd Iau 17 Medi 2020, 17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

RM4L2020 International Conference

Cyfle unigryw i drafod y datblygiadau diweddaraf mewn deunyddiau adeiladu deallus ac annibynnol.

Cynnwys: Mae datblygiad deunyddiau isadeiledd newydd a chlyfar, sydd wedi'i lywio gan yr awydd i leihau costau eu cynnal a’u cadw, a'u heffaith amgylcheddol sylweddol, yn denu sylw ymchwilwyr, academyddion, diwydianwyr a gwneuthurwyr polisi ar draws y byd.

Mae deunyddiau isadeiledd sy’n gallu hunan-synhwyro, hunan-iachau, ac sydd â galluoedd hunan-addasu yn ogystal â deunyddiau wedi'u teilwra fel cyfansoddion sementaidd yn enghreifftiau o'r meysydd ymchwil sydd o ddiddordeb.

Mae cwmpas y gynhadledd yn cynnwys ymchwil, arloesedd, dylunio a gweithredu. Yn benodol, bydd y gynhadledd yn cynnwys nifer o sesiynau penodol ar ddeunyddiau biomimetig sydd â’r gallu i hunan-synhwyro, hunan-imiwneiddio, hunan-iachau, hunan-atgyweirio a hunan-addasu.

Mae pynciau'r gynhadledd RM4L2020 wedi’u trefnu yn ôl 4 prif thema: deunyddiau biomimetig, synhwyro deunyddiau a diagnosteg, deunyddiau aml-bwrpas a deunyddiau deallus.

Churchill College
University of Cambridge
Storey's Way
Cambridge
Cambridge
CB3 0DS

Rhannwch y digwyddiad hwn