Ewch i’r prif gynnwys

Ailuno Gofod Chwyldroadol?: Croesi Ffiniau Symbolaidd mewn Tair Ffilm o Giwba yn yr 21ain Ganrif

Dydd Iau, 15 Tachwedd 2018
Calendar 13:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi ei ganslo.

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Darlith gyhoeddus gyda'r siaradwr gwadd Fehimović (Prifysgol Newcastle) fel rhan o ymchwil i themâu Ffiniau a Chyrff yn yr Ysgol.

Crynodeb

Mae Viva Cuba (Juan Carlos Cremata 2005), Habanastation (Ian Padrón 2011), a Conducta (Ernesto Daranas 2014) yn cynrychioli datblygiad newydd mewn ffilmiau Ciwba, sef plant yn dod yn brif gymeriadau’r ffilmiau yn ogystal â bod yn gynulleidfaoedd targed y sinema genedlaethol. Mae'n drawiadol bod y naratif a'r sinematograffi’n tynnu sylw at y sêr ifanc yn symud trwy ofod cenedlaethol ac yn enwedig ofod trefol ym mhob un o'r tair ffilm hyn. At hynny, ym mhob un o'r tri gwaith, mae plant yn croesi ffiniau gofodol a symbolaidd yn cyfuno hud diagnostig ac adferol penodol.  Mae hyn er mwyn i’r naratifau hyn gael eu gweld fel rhai sy'n datgelu gwirioneddau anghyfforddus ac ar yr un pryd yn cynnig atebion symbolaidd, moesol ac affeithiol i broblemau cenedlaethol a rennir. Trwy edrych yn fanylach ar y berthynas rhwng y cyrff ifanc hyn a'r mannau y maent yn tramwyo, bydd y papur hwn yn dechrau datguddio rhai o anghysonderau mewnol y naratifau hyn. Maent yn ymddangos ar y wyneb, i geisio arddel neu ddadeni gwerthoeddChwyldroadol.

Bywgraffiad

Mae Dr Dunja Fehimović yn Ddarlithydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd ym Mhrifysgol Newcastle. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys hunaniaeth genedlaethol, brandio cenedl, cosmopolitaniaeth, a sinemâu'r Caribî. Hi yw awdur National Identity in 21st-Century Cuban Cinema:Screening the Repeating Island (Palgrave Macmillan 2018), a gyda Dr Rebecca Ogden Branding Latin America: trategies, Aims, Resistance (Lexington 2018).   Gyda'r Athro Rob Stone, hi yw cyd-olygydd rhifyn blynyddol Celfyddydau Sgrin y Cyfnodolyn Ymchwil Sbaenaidd.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 1 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.