Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy PhotoVoice

Dydd Iau, 7 Mawrth 2019
Calendar 15:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Bydd y gweithdy hwn yn arddangos ffyrdd gwahanol o ddefnyddio dull Photovoice mewn prosiectau ymchwil. Bydd y sesiwn yn dechrau gydag esboniad byr o’r dull, ei amrywiadau a rhai enghreifftiau. Yna, bydd y bobl sy’n bresennol yn cael profiad ymarferol mewn ymarfer o ddwy ran sy’n ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng gwerthoedd a lleoedd.

Gofynnir i’r rhai sy’n cymryd rhan i ddod â llun neu eitem sy’n cynrychioli lle/elfen roeddent yn gwerthfawrogi yn eu cymunedau cyn troi’n 18. Bydd y grŵp yn mynd ar daith gerdded fer o amgylch y lleoliad ac yn tynnu llun o le neu elfen sy’n berthnasol iddyn nhw nawr. Yn rhan olaf y gweithdy, byddwn yn cymharu ac yn trafod dewisiadau unigol a phatrymau grŵp.

- amser sydd ei angen: tua 2 awr

- gofynion:

  • llun/item sy’n cynrychioli lle/elfen yr oedd yr unigolyn sy’n cymryd rhan yn gwerthfawrogi yn ei gymuned cyn troi’n 18,
  • camera/ffôn symudol sydd â chamera
Gweld Gweithdy PhotoVoice ar Google Maps
0.01
33 Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3BA

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Sustainability week