Ewch i’r prif gynnwys

Ffotograffiaeth ac Ieithoedd Ailadeiladu ar ôl yr Ail Ryfel Byd, 1944-49

Dydd Gwener, 12 Ebrill 2019
Calendar 09:00-19:15

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Second World War photo

Mae ymchwil ar ailadeiladu yn dilyn y rhyfel wedi canolbwyntio naill ai ar ailadeiladu canolfannau trefol yn Ewrop neu adeiladu trefn byd newydd (fel y gwelir yn y prosiect Ewropeaidd ac asiantaethau rhyngwladol fel yr WHO). Nid oes persbectif byd-eang, sy'n ceisio cymathu hanes Ewrop a'r Unol Daleithiau gyda hanes dyweder India, Japan, Algeria neu Awstralia wedi'i fabwysiadu hyd yma. Mae'r symposiwm hwn yn cynnig yr ystyriaeth gydunol gyntaf o'r mannau cyfarfod trawsgenedlaethol ar gyfer sefydlu Ewrop ar ôl y rhyfel a dadsefydlu Ymerodraeth ac, yn hanfodol, eu darlunio drwy ddelweddau ffotograffig.

Wrth edrych ar sefyllfaoedd ôl-wrthdaro ar draws amrywiol genhedloedd, byddwn yn ystyried y mannau cyswllt ble'r oedd milwyr a sifiliaid yn dod ar draws ei gilydd fel mannau ffisegol, mannau iaith a mannau cyfryngau ar yr un pryd. Mae'r digwyddiad yn mynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol: Sut cafodd ffotograffau eu defnyddio i gyfieithu straeon penodol ar draws ieithoedd neu hyrwyddo delweddau penodol am ennyd rhyfel neu ôl-ryfel? Pa gwestiynau am ymyrryd, cyfryngu a throsi diwylliannol mae gofod y neuadd arddangos neu'r dudalen brint yn eu cyflwyno i astudiaethau o ailadeiladu ar ôl y rhyfel a'i ieithoedd niferus?  Beth yw'r offerynnau dadansoddi y gallwn ni eu defnyddio ar gyfer dehongli deunyddiau gweledol a'u cyd-destunau amlieithog?

Mae'r prosiect amserol hwn yn cynnwys cydweithio rhwng ysgolheigion ar draws y DU, Ewrop ac Awstralia. Mae dealltwriaeth drylwyr o’r rhyngweithio hanesyddol rhwng ieithoedd, diwylliannau a delweddau yn ystod y trobwynt penodol hwn yn yr ugeinfed ganrif yn addo gwell ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd a'r bygythiadau a ddaw yn sgil globaleiddio diwylliannau gweledol yn yr unfed ganrif ar hugain.

Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth rhwng Canolfan Hanes Cyfryngau Tom Hopkinson (JOMEC) a’r Uned Ymchwil Darlunio Eraill (MLANG) ym Mhrifysgol Caerdydd.

Caiff ei gefnogi gan grantiau gan y Sefydliad Ymchwil Ieithoedd Modern (IMLR) a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae IMLR yn galluogi ymchwilwyr i gydweithio mewn ystod eang o rwydweithiau a gweithgareddau cenedlaethol a rhyngwladol, i ymgysylltu ag ymchwil arloesol ac i ddangos gwerth ymchwil i’r cyhoedd. Academi genedlaethol Cymru yw Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sy’n hyrwyddo rhagoriaeth ar draws yr holl feysydd academaidd, yn hybu ymchwil, yn ysbrydoli dysgu, ac yn cynnig cyngor annibynnol ar bolisïau.

RHAGLEN

Ffotograffiaeth ac Ieithoedd Ailadeiladu ar ôl yr Ail Ryfel Byd, 1944-49
Dyddiad: Dydd Gwener 12 Ebrill 2019
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Prif Adeilad, Prifysgol Caerdydd, Plas y Parc, CF10 3AT

9.00-9.20: Cofrestru yn Oriel VJ (llawr gwaelod)

9.20-9.30: Cyflwyniad gan Tom Allbeson (Prifysgol Caerdydd)

9.30-11.00: PANEL 1: Cyfarfyddiadau Diwylliannol: Ffotograffiaeth ac Ailadeiladu Trawsgenedlaethol

Cadeirydd: David Clarke (Prifysgol Caerdydd)

Laure Humbert (Prifysgol Manceinion): Helpu Pobl a Ddadleolwyd, Arddangos Bri Ffrengig: Ffotograffau o gymorth dyngarol Ffrengig i Bobl Ewropeaidd a Ddadleolwyd yn yr Almaen a Feddiannwyd gan y Cynghreiriaid

Alex Medcalf (Prifysgol Caerefrog): Ailadeiladu Cymunedau a Dinistrio Clefydau: Naratifau Ffotograffig Genedigol yr WHO

11.00-11.30: Coffi yn Oriel VJ (llawr gwaelod)

11.30-1.00: PANEL 2: Cyrff a Ffiniau: Ffotograffiaeth ac Ailadeiladu Cymunedau

Cadeirydd: Maria Kyriakidou (Prifysgol Caerdydd)

Robert Dale (Prifysgol Newcastle): Darlunio Dadfyddino'r Fyddin Goch: Ffotograffiaeth,
Ailadeiladu Cymunedau a Delweddu'r Trawsnewid o Ryfel i Heddwch

Rebecca Clifford (Prifysgol Abertawe): Rhwng Distryw a Gwydnwch: Ffotograffiaeth, Seicoleg ac Adsefydlu Plant Amddifad y Rhyfel ym Mhrydain

1.00-2.00: Cinio yn Oriel VJ (llawr gwaelod)

2.00-3.30: PANEL 3: Dadadeiladu Ymerodraeth: Ffotograffiaeth ac Ailadeiladu Trawsddiwylliannol

Cadeirydd: Stuart Allan (Prifysgol Caerdydd)

Tom Allbeson a Claire Gorrara (Prifysgol Caerdydd): Lluoedd y Cynghreiriaid yn y Trefedigaethau: Darlunio'r Cenhedloedd Saesneg eu Hiaith yn Rhyfela, 1944-6

Kevin Foster (Prifysgol Monash) Adeiladu Cenedl yn Bwrpasol: Diwylliant Gweledol a Cheisio Ailadeiladu ar ôl y Rhyfel yn Awstralia

3.30-4.00: Te yn Oriel VJ (llawr gwaelod)

4.00-5.30: PANEL 4: Darlunio Ailadeiladu: Ffurf a Chelfyddyd

Cadeirydd: Rachael Langford (Prifysgol Caerdydd)

Jan Baetens (KU Leuven): Cyrff Ffoto-Newydd

Fred Truyen (KU Leuven): Caleidosgop: Ymgysylltu â Ffotograffiaeth o'r 1950au yn Archifau Dwyrain a Gorllewin Ewrop

5.30-6.30: Trafodaeth mewn grwpiau gyda Amanda Hopkinson (Prifysgol y Ddinas, Llundain), David Clarke (Prifysgol Caerdydd), Stuart Allan (Prifysgol Caerdydd).

Cadeirydd: Claire Gorrara (Prifysgol Caerdydd)

7.00-7.45: Vin d’honneur yn y Grisiau Cymdeithasol yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, 2 Sgwâr Canolog, Caerdydd CF10 1FS

Gweld Ffotograffiaeth ac Ieithoedd Ailadeiladu ar ôl yr Ail Ryfel Byd, 1944-49 ar Google Maps
Council Chamber, Cardiff University, Room 1.77
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn