Ewch i’r prif gynnwys

Amgueddfeydd a ‘Hanesion Anodd’: 1968 yng Ngogledd Iwerddon

Dydd Mercher, 20 Mawrth 2019
Calendar 17:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Montage of black and white photos showing protesters

Darlith gan siaradwr gwadd, yr Athro Cyswllt Chris Reynolds (Prifysgol Nottingham Trent) am Iwerddon yn y 1960au. Mae hon yn cyd-fynd a’i arddangosfa ‘Lleisiau 68’ am bortreadu digwyddiadau yn Iwerddon ym 1968 ac fel rhan o’r thema ymchwil Gwrthdaro, Datblygu a Thrychinebau yr Ysgol Ieithoedd Modern.  Cynhelir yr arddangosfa yng nghyntedd yr Ysgol rhwng 19 a 26 Mawrth.

Crynodeb

Mae’r papur hwn yn cyfrannu at y drafodaeth ynglŷn â sut mae amgueddfeydd yn fwyfwy amlwg wrth ddehongli’r hyn a elwir bellach yn ‘hanesion anodd’. Mae’n dechrau gan amlinellu effaith a gwaddol hanesion dadleuol yng nghyd-destun Gogledd Iwerddon. Mae’n mynd rhagddo i ganolbwyntio ar sut a pham mae rhai amgueddfeydd bellach yn diffinio eu rôl, eu pwrpas a’u heffaith ar gymdeithas yn ôl y tueddiad cynyddol o fynd i’r afael a hanesion anghyfforddus. Ar sail hyn a’i brofiadau o ddehongli hanesion dadleuol, mae’n trafod ei brosiect cydweithredol diweddar am ddigwyddiadau pwysig 1968. Dadleuir bod cyfuniad arloesol o ran methodoleg a damcaniaeth y dull hwn yn cyflwyno gwersi a allai fod yn werthfawr iawn ar gyfer mynd i’r afael â gwaddol anodd gorffennol Gogledd Iwerddon, yn rhan o’r broses gymodi barhaus. Mae’n cynnig glasbrint posibl i bobl eraill ei fabwysiadu wrth wynebu eu ‘hanesion anodd’ eu hunain.

Arddangosfa

Mae arddangosfa Dr Chris Reynolds yn portreadu digwyddiadau yn Iwerddon ym 1968. Caiff ei harddangos yng nghyntedd yr Ysgol Ieithoedd Modern am wythnos (19-26 Mawrth). Mae’r arddangosfa wedi denu llawer o ddiddordeb cenedlaethol ac yn cael ei chynnal mewn 20 o leoliadau ar draws y DU.

Yn dilyn prosiect ymchwil parhaus rhwng Prifysgol Nottingham Trent (NTU) ac Amgueddfa Ulster, mae’r seminar hwn ac arddangosfa cysylltiedig yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau gwleidyddol a chymdeithasol arwyddocaol yng Ngogledd Iwerddon rhwng 1965 ac 1972, a sut mae’r digwyddiadau hyn wedi’u portreadu 50 mlynedd yn ddiweddarach.

Biograffiad

Mae Chris Reynolds yn Athro Cyswllt mewn Astudiaethau Ffrengig ac Ewropeaidd Cyfredol ym Mhrifysgol Nottingham Trent. Mae’n ymddiddori’n bennaf yn nigwyddiadau 1968 o safbwynt Ffrainc, Gogledd Iwerddon ac Ewropeaidd. Ar ben amrywiaeth eang o erthyglau a phenodau ar y pynciau hyn, mae wedi ysgrifennu Memories of May ‘68: France’s Convenient Consensus (Gwasg Prifysgol Cymru 2011) a Sous les pavés...The Troubles: Northern Ireland, France and the European Collective Memory of 1968 (Peter Lang 2015). Ar hyn o bryd, mae’n arwain prosiect sylweddol gydag Amgueddfa Ulster ynglŷn â 1968 yng Ngogledd Iwerddon.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Gwener 6 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Gweld Amgueddfeydd a ‘Hanesion Anodd’: 1968 yng Ngogledd Iwerddon ar Google Maps
Room 2.18, School of Modern Languages
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn