Ewch i’r prif gynnwys

Darlith Astudiaethau Japaneeg: Brexit ac Astudiaethau Japaneeg: Taith i Ddarganfod - AILDREFNWYD

Dydd Iau, 22 Tachwedd 2018
Calendar 17:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Nodir os gwelwch yn dda fod y digwyddiad hwn wedi'i ail-drefnu i'w gynnal ar ddydd Iau 22 Tachwedd gyda’r derbyniad gwin yn dechrau am 18:00. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.

Darlith am Brexit ac Astudiaethau Japaneeg gyda’r siaradwr gwadd David Williams, BA, DPhil (Oxon), FRSA.

Crynodeb

Yn y bôn, cyfarfod personol gydag awdur tri llyfr diweddar yw’r ddarlith hon. Bydd strwythur ffurfiol i'r ddarlith hon, ond bydd yr awyrgylch yn anffurfiol.  Mae’n cynnwys pedair rhan:

  1. Fy Japan; Dy Japan
  2. Darganfod Chwyldro Confucius neu’r Japaneaid fel pobl o Ddwyrain Asia
  3. Meddyliau Pobl eraill: Pe bai gan y rhai sydd o blaid Brexit ffordd o feddwl fwy Conffiwsaidd
  4. Dehongliad Caerdydd: Japan fel Chwilfa Geltaidd Heb ei Thebyg!

Mae sylwedd y ddarlith yn deillio o'r llyfrau canlynol:

  • Before We Go to War with China and N. Korea: The Unmastered Lessons of America’s Wars against Confucian Asia, from Pearl Harbor to the Fall of Saigon (2017)
  • Better and Stronger Apart: The Practical Case for a New Partition of the British Isles, Why It May Be Time for the Remain and Leave Nations of these Islands to Go their Separate Ways, An Essay in Persuasion on Brexit (2018)
  • The European Discovery of Confucian Revolution: The Orientalist Completes Machiavelli’s Unfinished Voyage (ar y gweill yn 2019)

Bywgraffiad

Ganwyd Williams yn Los Angeles, cafodd ei addysg yn Japan ac yn UCLA, a chyfrannodd at Adran Mynegi Barn y Los Angeles Times am flynyddoedd lawer.Mae wedi addysgu yn Rhydychen, lle gwnaeth ei ddoethuriaeth. Mae hefyd wedi addysgu ym mhrifysgolion Sheffield a Chaerdydd. Mae wedi gweithio i Fanc Diwydiannol Japan, Mitsui & Co., Cwmni Petrogemegol Iran-Japan, a Tōyō Keizai (Yr Economegydd Dwyreiniol). Yn ystod deuddeg o'i bum mlynedd ar hugain yn Japan, roedd yn awdur golygyddol The Japan Times. Yna bu’n gweithio mewn gwasanaethau ariannol yn Tokyo, Llundain a Dinas Efrog Newydd. Mae wedi ymddangos yn rheolaidd ar BBC Cymru ac mae wedi ysgrifennu erthyglau yn The Financial Times a chylchgrawn Liberty yn Japan. Bellach mae'n rhannu ei amser rhwng Bae Caerdydd a Bordeaux.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn Dydd Mercher 14 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Gweld Darlith Astudiaethau Japaneeg: Brexit ac Astudiaethau Japaneeg: Taith i Ddarganfod - AILDREFNWYD ar Google Maps
0.40 in the School of Modern Languages
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn