Ewch i’r prif gynnwys

Y tu mewn i Oxford Nanopore: Dilyniant genynnau "ungorn" y DU

Dydd Mercher, 27 Mawrth 2019
Calendar 17:15-19:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Dechreuodd Dr Gordon Sanghera ei addysg uwch yng Nghaerdydd, ac roedd ei radd cemeg yn sylfaen gadarn ar gyfer PhD mewn bioelectroneg yng Nghaerdydd gyda'r Athro JDR Thomas. Roedd hefyd yn sylfaen i’w yrfa ym maes cyfuno bioleg, cemeg ac electroneg i greu datblygiadau arloesol mewn synhwyro glwcos yn y gwaed a dadansoddi DNA.

Gordon oedd un gyd-sylfaenwyr Oxford Nanopore gyda Hagan Bayley ac IP Group. Cafodd ei benodi’n Brif Swyddog Gweithredol ym Mehefin 2005. Nod Oxford Nanopore yw galluogi unrhyw un i ddadansoddi unrhyw beth byw, mewn unrhyw amgylchedd. Dyfais cyntaf y Cwmni, y MinION, yw'r unig ddilynydd DNA/RNA cludadwy, amser real. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn dros 70 o wledydd, er mwyn dadansoddi pathogenau, clefydau dynol, gwyddor cnydau a gwyliadwriaeth amgylcheddol. Mae'r MinION hyd yn oed yn cael ei ddefnyddio i wneud arbrofion microbioleg yn yr orsaf ofod rhyngwladol.

Erbyn hyn mae gan Oxford Nanopore dros 350 o weithwyr o wahanol ddisgyblaethau gan gynnwys gwyddoniaeth nanopore, bioleg moleciwlaidd a chymwysiadau, gwybodeg, peirianneg, electroneg, gweithgynhyrchu a masnacheiddio. Mae'r cwmni wedi codi dros £451m hyd yma ac mae wedi codi swm digonol ar gyfer y cam nesaf o’i ddatblygiad corfforaethol.

Gan fod modd ehangu cynhyrchion Oxford Nanopore a’u gwneud yn addas ar gyfer prosiectau genomeg poblogaeth ar raddfa fawr, a bod modd eu lleihau i ddarparu profion cyflym yn y man gofal, beth yw'r goblygiadau i ddiwydiant, gofal iechyd a hyd yn oed addysg?  Sut dylai cwmni technoleg Prydeinig sy'n dod i'r amlwg ymyrryd â marchnadoedd byd-eang?

Ymunwch â ni ar 7 Tachwedd oherwydd bydd Dr Sanghera yn trafod y pwyntiau hyn ac yn ateb cwestiynau.

Bydd sesiwn Holi ac Ateb ar ôl y cyflwyniad.

Rhwydweithio - Bydd canapés a chyfle i rwydweithio o 5.30pm

Cadw lle - Cewch fynd i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond rhaid cadw lle. Caiff lleoedd eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Cofrestru – Bydd cofrestru’n agor am 5:30pm. Bydd y sesiwn yn dechrau’n brydlon am 6:00pm.

Gweld Y tu mewn i Oxford Nanopore: Dilyniant genynnau "ungorn" y DU ar Google Maps
Hadyn Ellis Building
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ

Rhannwch y digwyddiad hwn