Ewch i’r prif gynnwys

Rhanbarthau arloesol a chysylltedd byd-eang

Dydd Mawrth, 27 Tachwedd 2018
Calendar 17:30-19:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae arloesedd yn datblygu mewn mannau daearyddol hynod grynodedig ac mae ei ddosbarthiad gofodol yn tueddu i aros yn sefydlog dros amser. Er hyn, mae datblygiad technolegol yn broses sy’n parhau i agor drysau newydd i gyfleoedd lleoliadol er mwyn i ganolfannau arloesedd newydd ymddangos ar draws y byd. Beth sy’n galluogi rhai dinasoedd a rhanbarthau i ymuno â ‘chlwb preifat arloesedd y byd’? Pam mae lleoedd eraill yn cael eu gadael ar eu hôl o hyd?

Beth y gallai polisïau cyhoeddus ei wneud i gefnogi rhanbarthau llai arloesol? Mae atebion traddodiadol i’r cwestiynau hyn wedi canolbwyntio ar ffactorau mewnol cynhenid ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu ddinesig. Fodd bynnag, yn y sgwrs hon bydd cysylltedd byd-eang a llifau buddsoddi yn ganolog wrth esbonio arloesedd lleol. Yn gyntaf, bydd y sgwrs yn trin a thrafod tystiolaeth newydd am effaith Buddsoddiadau Uniongyrchol Tramor ar berfformiad arloesedd eu dinasoedd lletyol ac ardaloedd ar draws y byd. Yn ail, bydd y sgwrs yn trafod y problemau ymarferol sy’n wynebu polisïau cyhoeddus wrth geisio dylanwadu ar gwmnïau tramor er mwyn rhoi hwb i arloesedd mewn cwmnïau domestig a rhanbarthau llai datblygedig. Daw i ben gyda rhai myfyrdodau am ymchwil a heriau polisi’r dyfodol.

Mae’r Athro Riccardo Crescenzi yn Athro Daearyddiaeth Economaidd Llawn yn Ysgol Economeg Llundain. Mae hefyd yn gysylltiedig â’r Ganolfan Perfformiad Economaidd (CEP) a’r Ganolfan Ymchwil Economaidd Ofodol (SERC). Mae Riccardo yn meddu ar grant gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC) ar hyn o bryd. Mae hefyd yn Gydymaith yn y Ganolfan Datblygiad Rhyngwladol yn Ysgol Llywodraeth Harvard, Prifysgol Harvard. Mae wedi bod yn Ysgolhaig Ymweliadol yng Nghanolfan Taubman Ysgol Llywodraeth Harvard Kennedy, ym Mhrifysgol California Los Angeles (UCLA) ac yn Gymrawd Jean Monnet yn Sefydliad Prifysgol Ewrop. Mae Riccardo wedi rhoi cyngor i lu o sefydliadau gan gynnwys Banc Buddsoddi Ewrop (EIB), Senedd Ewrop, Comisiwn Ewrop, y Banc Buddsoddi Rhyng-Americanaidd (IADB), y Sefydliad Cydweithio a Datblygu Economaidd (OECD) ac amrywiaeth o lywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol. Riccardo oedd enillydd Gwobr Geoffrey J.D. Hewings gan Gyngor Gwyddoniaeth Ranbarthol Gogledd America.

Cofrestru - 5.30pm

Digwyddiad yn dechrau - 6pm

* Cynhelir y digwyddiad hwn trwy gyfrwng y Saesneg.

Gweld Rhanbarthau arloesol a chysylltedd byd-eang ar Google Maps
Committee Rooms 1&2
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA

Rhannwch y digwyddiad hwn