Ewch i’r prif gynnwys

Dangos ffilm a sgwrs gyda'i chynhyrchwyr: NO STONE UNTURNED

Dydd Iau, 7 Chwefror 2019
Calendar 18:30-21:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Arbedwch i'ch calendr

Mae’r ffilm ddogfennol bwerus hon yn archwilio llofruddiaeth giaidd chwech o selogion pêl-droed, a saethwyd yn eu cefnau ym 1994 tra’n gwylio gêm ar deledu tafarn y pentref yng Ngogledd Iwerddon yn ystod Cwpan y Byd. Mae’n tynnu’r llen oddi ar ddryswch o lygredd sy’n cwmpasu’r heddlu, gangiau parafilwrol a byddin Prydain yn sgil y lladdfa. Chwarter canrif yn ddiweddarach, ’does neb wedi cael ei gyhuddo o’r llofruddiaethau. Ond mae newyddiadurwyr hwythau wedi cael eu harestio am ymchwilio iddynt – h.y. am gyflawni eu swyddi.

Mae’r cyfarwyddydd Alex Gibney, enillydd gwobr Oscar, wedi honni taw dyma’r ffilm a allai ei roi yn y carchar.

Mae’r newyddiadurwyr Trevor Birney a Barry McCaffrey wedi cael eu harestio’n barod ar ôl casglu ffeithiau ar gyfer y ffilm. Cyrhaeddodd rhyw 100 o blismyn yn oriau mân y bore fis Awst diwethaf i ddwyn cyrch ar eu cartrefi a’u swyddfeydd, gan gipio eu ffonau a’u gliniaduron, ffonau ac eiddo personol gwraig Trevor – a hyd yn oed ffôn pinc ei ferch ifanc.

Trydarodd Alex Gibney eu bod nhw wedi cael eu harestio am gyflawni "gwaith newyddiadurol da, diarbed".

Mae NUJ Caerdydd, mewn cydweithrediad â JOMEC, yn cyflwyno’r ffilm ddogfennol hon nad oedd y BBC am ichi ei gweld. Cawn gyfle hefyd i drafod y ffilm a’i hôl-gryndodau gyda Trevor Birney, a fydd yn hedfan draw o Belffast ar gyfer yr achlysur arbennig yma.

No Stone Unturned

Cyfarwyddwr: Alex Gibney

15 1awr 51munUD Dogfennol 30 Medi 2017 (UDA)

Gweld Dangos ffilm a sgwrs gyda'i chynhyrchwyr: NO STONE UNTURNED ar Google Maps
Lecture Theatre 0.06
Two Central Square

Caerdydd
CF10 1FS

Rhannwch y digwyddiad hwn