Ewch i’r prif gynnwys

Ffair y Rhaglen Japaneeg

Dydd Gwener, 15 Mehefin 2018
Calendar 16:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Ffair y Rhaglen Japaneeg / Japanese Programme Fair

Os hoffech fynd i'r digwyddiad, cofrestrwch yma erbyn dydd Gwener 1 Mehefin am resymau arlwyo. (Nid oes rhaid i chi gofrestru os hoffech fynd i'r cyflwyniad a'r gystadleuaeth lafar yn unig.) Rydym yn ymddiheuro nad yw’r tudalennau gofrestru yn hollol trwy gyfrwng y Gymraeg, yn anffodus nid yw’r llwyfan rydym yn ei ddefnyddio yn cynnig y gwasanaeth hwn.

Bydd Ffair y Rhaglen Japaneeg, sydd wedi'i chynnal ar y cyd gan yr Ysgol Ieithoedd Modern, y Rhaglen Japaneeg a Chlwb Japan Cymru, yn dechrau gyda chyflwyniad gan gynfyfyriwr o Brifysgol Caerdydd ac sydd wedi graddio o'r Rhaglen Japaneeg, Alexandros Tanti. Ar ôl hyn bydd cystadleuaeth lafar gyda myfyrwyr Japaneeg yn eu blwyddyn gyntaf, ail flwyddyn a thrydedd flwyddyn.

Mae Alexandros Tanti yn un o gynfyfyrwyr y rhaglen Japaneeg. Enw'r cyflwyniad yw "Fy Ngyrfa ar ôl Astudio Japaneeg ym Mhrifysgol Caerdydd" a bydd sesiwn holi ac ateb i ddilyn. Cynhelir y cyflwyniad drwy gyfrwng y Saesneg. Os ydych eisiau cyfrannu drwy Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb o’r digwyddiad, gallwn ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg os oes digon o alw.

Os gwelwch yn dda, cysylltwch â mlang-events@cardiff.ac.uk erbyn dydd Gwener 1 o Fehefin os hoffwch chi ofyn cwestiynau drwy gyfrwng y Gymraeg a byddwch yn cael ei chyhoeddi os bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn ar gael.

Yn dilyn y cyflwyniad a'r sesiwn holi ac ateb, cynhelir cystadleuaeth lafar lle bydd tri myfyriwr yn eu blwyddyn olaf yn gwneud cyflwyniadau am gymdeithas a diwylliant Japan. Cynhelir y y gystadleuaeth lafar yn gyfan gwbl mewn Japaneeg a bydd cyfle am interniaeth gydag aelod o Glwb Japan Cymru i enillydd y wobr gyntaf.

Ar ôl i'r interniaeth gael ei chyflwyno i enillydd y wobr gyntaf, bydd derbyniad gwin a chinio bwffe. Mae rhaglen ar gyfer y digwyddiad ar gael.

Gweld Ffair y Rhaglen Japaneeg ar Google Maps
2.18
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn