Ewch i’r prif gynnwys

Cyfieithu Mewn Argyfyngau

Dydd Mercher, 13 Chwefror 2019
Calendar 16:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Nodwch fod y digwyddiad hwn wedi cael ei ail-drefnu i ddigwydd ar ddydd Mercher 13 Chwefror 2019 yn ystafell 2.18 yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, a bydd yn cynnwys siaradwr ychwanegol.

Darlith gyhoeddus gyda siaradwr gwadd Dr Federico M. Federici (Coleg Prifysgol Llundain) a Ms Khetam Al Sharou (Coleg Prifysgol Llundain) fel rhan o thema ymchwil Cyfieithu, Addasu a Pherfformio yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Cyfathrebu Amlieithog Mewn Cyfres o Argyfyngau - Gan Dr Federico M. Federici

Crynodeb

Mae'r papur hwn yn cyflwyno amcanion a chanfyddiadau parhaus Rhwydwaith INTERACT a ariennir gan H2020, sy'n canolbwyntio ar gyfieithu mewn argyfyngau. Mae rôl cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd sy'n gweithredu wrth i gyfres o argyfyngau ddatblygu mewn cyd-destun amlieithog (boed yn argyfwng dynol neu'n drychineb naturiol) heb gael digon o sylw mewn ymchwil astudiaethau trychinebau, a dim ond rhywfaint o sylw ym maes astudiaethau cyfieithu tan yn ddiweddar.

Mae'r camargraff bod iaith gyffredin ryngwladol yn bodoli yn cuddio'r realiti cymhleth o gyfathrebu rhugl mewn argyfyngau sy'n codi mewn cyd-destunau amlieithog, lle mae digwyddiadau sy'n codi'r naill ar ôl y llall (Pescaroli ac Alexander, 2015) yn arwain at gyfathrebu mewn ffyrdd annisgwyl (Crowley a Chan, 2011). Mae mynediad at wybodaeth glir yn hollbwysig er mwyn cyfathrebu'n glir â phoblogaethau a effeithiwyd gan argyfwng; mae mynediad at wybodaeth sy'n achub bywydau yn hawl dynol (O'Brien, Federici, Cadwell, Marlowe, a Gerber, 2018).

Pwy yw'r cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd mewn argyfyngau anrhagweladwy? Sut mae'r cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd yn ymdrin â'r frwydr grym yn y berthynas rhwng y rhai a effeithiwyd a'r rhai sy'n ymateb? A oes ganddynt brofiad proffesiynol? I ba raddau mae adnoddau cyfieithu wedi eu hymgorffori'n glir i weithrediadau ymateb, neu'n cael eu hystyried yn elfen allweddol o baratoi ac ymateb (Cadwell ac O'Brien, 2016)? Neu a all gwirfoddolwyr gael eu hyfforddi i ddod yn gyfieithwyr achlysurol wrth ymateb i argyfyngau penodol (Federici a Cadwell, 2018; Moser-Mercer, Kherbiche, a Class, 2014; O'Brien, 2016)?

Bydd y ddarlith hon yn myfyrio ar rai materion craidd sy'n gysylltiedig â rôl cyfryngwyr iaith mewn argyfyngau sy'n codi mewn cyd-destun amlieithog, gan ganolbwyntio'n benodol ar bolisïau sy'n ymgorffori cyfryngu rhwng ieithoedd wrth ymateb i argyfyngau, ac anghenion hyfforddiant ieithyddion sy'n gweithio ym maes cyfieithu ar gyfer argyfyngau.

Bywgraffiad

Mae Federico M. Federici yn Ddarllenydd mewn Astudiaethau Cyfieithu yng Nghanolfan Astudiaethau Cyfieithu Coleg Prifysgol Llundain, y DU.  Fe enillodd Federico y cymhwyster Laurea Ling. Lett Moderne  (Saesneg/Ffrangeg) yn 'La Saprenza', Prifysgol Roma, cyn symud i'r DU lle dyfarnwyd PhD iddo ym Mhrifysgol Caerdydd (2007). Yn 2007, sefydlodd a chyfarwyddodd yr EMTTM MA mewn Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Durham, y DU (2008–2014). Ef oedd sylfaenydd a Chyfarwyddwr y Ganolfan Cyfryngu Rhyngddiwylliannol ym Mhrifysgol Durham. Bu'n aelod o Fwrdd Rhwydwaith Meistr mewn Cyfieithu Ewrop (2011-2014). Yn ogystal â nifer o erthyglau mewn cyfnodolion, ef yw awdur Translation as Stylistic Evolution (2009), cyd-olygydd Translators, Interpreters and Cultural Mediators (2014), a golygydd Mediating Emergencies and Conflicts (2016), Translating Dialects and Languages of Minorities (2011), a Translating Regionalized Voices in Audiovisuals (2009). Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd fel cyfryngwyr rhyngddiwylliannol a'r ymateb i destunau wedi'u cyfieithu ar y newyddion.

Cyfieithu Peirianyddol a'i Rôl mewn Cyfieithu mewn Argyfwng - Gan Ms Khetam Al Sharou

Crynodeb

Mae Cyfieithu Peirianyddol yn dechnoleg lle mae cyfrifiadur yn creu cyfieithiadau o un iaith i'r llall. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ymchwil ym maes Cyfieithu Peirianyddol wedi datblygu'n aruthrol, ac erbyn hyn mae modd cael cyfieithiadau eithaf cywir ar gyfer rhai parau o ieithoedd. O ganlyniad i'r gwelliant sylweddol hwn yn ei hansawdd, mae'r dechnoleg bellach wedi cael ei chyflwyno i lifau gwaith cyfieithu proffesiynol, ac mae ei botensial wedi'i brofi y tu hwnt i'r diwydiant cyfieithu ei hun. Mewn gwirionedd, yn 2010 roedd Cyfieithu Peirianyddol yn ddefnyddiol wrth ymateb i ddaeargryn Haiti. Yn y cyflwyniad hwn byddwn yn gweld yn fras beth yw cyfieithu peirianyddol a sut mae system cyfieithu peirianyddol yn gweithio, er mwyn egluro sut y gellid ei defnyddio i roi cymorth ar ôl trychinebau neu baratoi ar eu cyfer.

Bywgraffiad

Mae Ms Khetam Al Sharou yn ymchwilydd yng Nghanolfan Astudiaethau Cyfieithu Coleg Prifysgol Llundain lle mae hi'n cynnal ei hymchwil ddoethurol. Mae ganddi MSc mewn Cyfieithu ac Offer Cyfieithu a Gynorthwyir gan Gyfrifiadur o Brifysgol Heriot-Watt, y DU. Cyn ei hastudiaethau doethurol, roedd hi'n darlithio Saesneg yn y Sefydliad Uwch ar gyfer Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, Prifysgol Damascus a phrifysgolion eraill yn Syria. Mae ei phrosiect PhD yn canolbwyntio ar y system cyfieithu peirianyddol Moses, a'i defnyddio i addysgu technolegau cyfieithu i'r pâr ieithoedd Saesneg ac Arabeg. Mae ei hymchwil yn cynnwys astudiaethau helaeth ym maes ieithyddiaeth, cyfieithu a gwybodaeth am egwyddorion addysg. Ar hyn o bryd mae Miss Al Sharou yn cymryd rhan mewn nifer o brosiectau ymchwil trawsddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar integreiddiad ieithyddol a chyfathrebu oedolion sy'n ffoaduriaid a meddygon sy'n ffoaduriaid yn Ewrop a'r DU, ac ar wasanaethau cyfieithu mewn argyfyngau.

Cyfieithu ar y pryd


Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 30 Ionwar i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru


Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Gweld Cyfieithu Mewn Argyfyngau ar Google Maps
2.18
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn