Ewch i’r prif gynnwys

Awduron "Affropeaidd" Ffrangeg eu Hiaith cyfoes: O Francophonie i’r banlieue

Dydd Mercher, 21 Tachwedd 2018
Calendar 15:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Darlith am awduron cyfoes "Afropeaidd" gyda'r siaradwr gwadd Dr Christopher Hogarth (Prifysgol De Awstralia) fel rhan o ymchwil i themâu Ffiniau a Chyrff yn yr Ysgol. Derbyniad gwin i ddilyn yn y cyntedd rhwng 16:00 – 17:00.

Crynodeb

Gellid ystyried y term 'Affropeaidd' fel newyddair arall mewn byd lle mae aml-berthyn wedi troi'n ffasiwn. Wedi'i fathu gan y cerddor Americanaidd David Byrne (Thomas and Hitchcott, 2014: 3), y nofelydd Ffrangeg ei iaith Léonora Miano o Gamerŵn yw ei brif lais; yn y cyfamser, yn Ffrainc, prin y trafodir y syniad o hunaniaethau lluosog neu rhai â chysylltnod; a dim ond yn ddiweddar y mae'r syniad o 'ôl-wladychol' newydd ddod i'r amlwg yn ddiweddar ar ôl ymdrechion gan ysgolheigion megis Jean-Marc Moura. Yn y cyflwyniad hwn, bydd Dr Christopher Hogarth yn ystyried detholiad o awduron y mae'n eu grwpiau yn ddau gategori; Affropeaid Ffrangeg eu hiaith, ac Affropeaid ôl-ymfudol. Bydd yn amlinellu'n gyntaf agweddau ar waith a gyrfaoedd lleiafrifoedd ôl-ymfudol ôl-drefedigaethol o dreftadaeth Affricanaidd a aned ac a fagwyd yn Ffrainc neu Ewrop Ffrangeg ei hiaith. Yna, bydd yn cymharu'r gyrfaoedd a'r themâu pennaf yn eu gwaith â rhai ail set o awduron Affropeaidd. Yn benodol, bydd yn ymchwilio i rôl daearyddiaeth yng ngwaith ffuglennol a gyrfaoedd detholiad o awduron Affricanaidd Ffrangeg eu hiaith gyfoes sydd â chysylltiadau agosach â'r Unol Daleithiau y gellid eu disgrifio'n well fel 'Afrobolitiaid'.  Wrth wneud hynny, mae'n gobeithio i addasu y term 'Afropead' i gynnwys gryn ddylanwad cyfandiroedd tu hwnt i ddeuoldeb Affrica ac Ewrop, ac ar yr un pryd yn dangos terfynau y label fel y mae wedi'i boblogeiddio, wrth iddo gyfyngu ar rai cyfeiriadau yn unig wrth bwysleisio rhai eraill.

Bywgraffiad

Darlithydd ym Mhrifysgol De Awstralia yw Christopher Hogarth, ac mae'n dysgu pob lefel llenyddiaeth yno.  Mae ei ymchwil yn canolbwyntio'n arbennig ar y cysylltiadau rhwng yr Affrica Ffrangeg a'r Affrica Eidalaidd a llenyddiaeth Ewropeaidd.  Mae wedi cyhoeddi a golygu sawl erthygl a saith cyfrol ar bynciau sy'n ymwneud ag ymfudo yn llenyddiaeth Awstralia, llenyddiaeth Ffrangeg ei hiaith ac Eidaleg ei hiaith, gan ganolbwyntio'n arbennig ar awduron fel Fatou Diome, Igiaba Scego, Abasse Ndione a Ken Bugul.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 7 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Gweld Awduron "Affropeaidd" Ffrangeg eu Hiaith cyfoes: O Francophonie i’r banlieue ar Google Maps
Room 2.26 in the School of Modern Languages
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn