Ewch i’r prif gynnwys

Bananageddon: Ffrwyth mewn Argyfwng

Dydd Mawrth, 5 Mawrth 2019
Calendar 14:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Bananas yw"r ffrwyth mwyaf poblogaidd yn y byd. Maent yn cael eu hallforio o Ganol a De America, ac yn aml yn teithio ar draws cefnforoedd mewn cynwysyddion, ac yn cyrraedd ein siopau bwyd yn y pen draw. Mae unigolyn cyffredin yn bwyta 12kg o fananas bob blwyddyn yn y DU.

Cavendish yw’r math o fanana sy’n cael ei werthu mwyaf ar hyn o bryd yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop, ac mae dan fygythiad gan sawl math o glefyd. Mae rhai arbenigwyr yn amcangyfrif mai dim ond am ddegawd arall byddant yn goroesi’n fasnachol. Rydym yn gysylltiedig â"r broblem hon, gan ein bod yn bwyta ac yn dwlu ar fananas. Er mwyn cadw bananas yn ein powlenni ffrwythau, ein pecynnau bwyd ac yn ein siopau bwyd, rhaid i ni fel defnyddwyr hyrwyddo ffyrdd newydd o gynhyrchu bananas.

Rydym yn gobeithio dangos rhagolwg o’r rhaglen ddogfen Bananageddon i chi’r defnyddwyr, er mwyn rhoi syniad i chi o sut beth fyddai cynhyrchu bananas pe bawn yn dilyn y llwybr hwn o ddyfodol gwell i fananas, bioamrywiaeth a phobl. Ymunwch â ni am drafodaeth ffrwythlon ar sut y gallwn gael dyfodol gwell i’r banana.

Gweld Bananageddon: Ffrwyth mewn Argyfwng ar Google Maps
0.01
33 Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3BA

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Sustainability week