Cyngor gwyddonol yn ystod argyfwng: Ydyn ni wedi paratoi'n well, neu oes rhagor i'w wneud o hyd?
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Yn ystod pum mlynedd gyntaf y 2020au, bu’n rhaid i lunwyr polisïau fynd i’r afael â heriau sylweddol, gan gynnwys pandemig byd-eang, gwrthdaro milwrol rhyngwladol ac ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd sylweddol, yn ogystal ag effeithiau newid yn yr hinsawdd sy’n gwaethygu.
Pa wersi ydyn ni wedi’u dysgu o’r argyfyngau diweddar o ran sut mae mecanweithiau cyngor gwyddonol yn gweithio? Beth sydd ar ôl i'w wneud i atgyfnerthu ein rhwydweithiau, seilwaith, prosesau ac arferion cyngor gwyddonol i fynd i’r afael â'r hyn sydd o’n blaenau?
Ymunwch â ni ar gyfer y weminar hon, sy’n agored i bawb yn rhad ac am ddim. Mae'n ddigwyddiad ategol i gynhadledd 2025 yr European Scientific Advice Mechanism - Building bridges: shaping Europe’s science-for-policy-landscape.
Rydyn ni’n falch iawn o groesawu rhai aelodau o’r panel rhyngwladol a ddaeth i drafod y pwnc gyda ni yn 2022 unwaith eto, ynghyd ag arbenigwyr a safbwyntiau newydd:
• Yr Athro Pearl Dykstra, Aelod Academia Europea, Athro Cymdeithaseg Empirig ym Mhrifysgol Erasmus Rotterdam a chyn Ddirprwy Gadeirydd Grŵp Prif Ymgynghorwyr Gwyddonol
• Dr David Phipps, Cyfarwyddwr, Research Impact Canada
• Dr Cornel Hart, Prifysgol y Western Cape (De Affrica) ac Aelod Academi Ysgolheictod Ymgysylltu Cymunedol yr Unol Daleithiau (ACAS)
• Sarah Chaytor, Cyfarwyddwr Strategaeth Ymchwil a Pholisïau, Coleg Prifysgol Llundain, a Chyd-gadeirydd UPEN
• Dr Alessandro Allegra, ymarferydd ac ymchwilydd polisïau gwyddoniaeth a Chynorthwyydd Polisïau i’r Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol RTD, y Comisiwn Ewropeaidd
Academia Europaea Caerdydd a SAPEA, mewn partneriaeth ag UPEN sy’n trefnu ac yn cynnal y digwyddiad hwn.