Jane Falkingham - Cadeirydd y Prif Banel C
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mae’r digwyddiad hybrid (wyneb yn wyneb ac ar-lein dros Teams) hwn yn gyfle i ymchwilwyr yng Nghymru ddysgu mwy am y paramedrau a’r dadleuon sy’n debygol o fod yn sail i REF2029 o safbwynt Cadeirydd y Prif Banel C (Gwyddorau Cymdeithasol), yr Athro Demograffeg a Pholisi Cymdeithasol Rhyngwladol ac Is-lywydd (Ymgysylltu Rhyngwladol a Byd-eang) Jane Falkingham (Prifysgol Southampton), ac i ofyn cwestiynau.
Bydd sesiwn holi ac ateb gyda’r rhai sy’n bresennol yn dilyn y cyflwyniad.
Croeso i bawb.
Mae'r nifer a all fod yn bresennol wyneb yn wyneb yn gyfyngedig. Rhaid cofrestru.
Noddir y digwyddiad hwn gan Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd gyda chefnogaeth sefydliadol gan Ysgolion Academaidd y Gwyddorau Cymdeithasol a Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth a’r Gwasanaeth Ymchwil.
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU