Arddangosfa Cyfleoedd Byd-eang: Dathlu 10 mlynedd o GO
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Eleni rydym yn gyffrous i ddathlu 10 mlynedd ers sefydlu'r tîm Cyfleoedd Byd-eang. Dros y degawd diwethaf gyda chymorth y tîm, mae 8219 o fyfyrwyr israddedig wedi astudio, gweithio, ymchwilio neu wirfoddoli dramor, mewn 93 gwlad anhygoel.
Galwch heibio rhwng 10am a 12pm ddydd Llun 10 Chwefror i gael cyfle i ddathlu gyda chacennau cwpan, cwrdd â'r tîm GO a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am gyfleoedd i weithio, astudio neu wirfoddoli dramor.
Mae treulio amser dramor fel hyn yn cynnig manteision enfawr: datblygiad personol, dealltwriaeth ddyfnach o ddiwylliannau eraill a'r sgiliau meddal y mae cyflogwyr graddedigion eu heisiau. Mae myfyrwyr yn dweud wrthym dro ar ôl tro mai cwblhau cyfle byd-eang oedd uchafbwynt eu hamser yng Nghaerdydd - ei fod wedi eu helpu i lunio eu cynlluniau gyrfa ac wedi rhoi'r hyder iddynt feddwl yn fwy.
Bydd yr arddangosfa yn ei lle o ddydd Llun 3ydd – dydd Gwener 14eg Chwefror ar lawr gwaelod y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr.
Centre for Student Life
Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3BB