Salwch meddwl, hunan-niweidio a hunanladdiad yng Ngogledd Iwerddon: Tystiolaeth newydd o ddata gweinyddol cysylltiedig â Dr Aideen Maguire
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Ynglŷn â'n siaradwr
Epidemiolegydd Seiciatrig hyfforddedig yw Dr Aideen Maguire ac ar hyn o bryd yn Ddarllenydd Epidemioleg Gymdeithasol yn yr Ysgol Meddygaeth ym Mhrifysgol Queen's Belfast.
Hi yw cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol (ADRC) Gogledd Iwerddon, gan arwain tîm o arbenigwyr ymchwil o Brifysgol Queen's Belfast a Phrifysgol Ulster sy'n canolbwyntio ar roi tystiolaeth effeithiol o safon sy'n cefnogi polisïau ac ymarfer yng Ngogledd Iwerddon.
Ymhlith portffolio ymchwil yr ADRC y mae gwaith sy'n edrych ar incwm, tlodi, amddifadedd, addysg, llygredd aer, yr amgylchedd adeiledig, plant mewn gofal, digartrefedd, y system gyfiawnder a salwch meddwl.
Mae Aideen yn gyd-ymchwilydd ar nifer o grantiau ymchwil, gan arwain ar themâu sy'n defnyddio data gweinyddol i ddeall iechyd meddwl a salwch meddwl y boblogaeth yn well, megis Astudiaeth Hydredol Gogledd Iwerddon (NILS), Groundswell, MuM-PreDiCT a Behavioural Research UK.
Yn ddiweddar, mae Aideen a'i thîm wedi cyhoeddi nifer o bapurau ar thema salwch meddwl, hunan-niweidio a hunanladdiad ac maen nhw’n creu briff polisi yn seiliedig ar eu canfyddiadau i helpu i lywio polisïau ac ymarfer yng Ngogledd Iwerddon.
Cynhelir y ddarlith dros Zoom, a bydd sesiwn holi ac ateb i ddilyn.
Gwybodaeth am Ganolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc
Rydyn ni’n ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar leihau gorbryder ac iselder ymysg pobl ifanc. Mae ein canolfan ymchwil yn dod ag arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe ynghyd ac mae cyllid hael gan Sefydliad Wolfson yn gwneud hyn yn bosibl.