Deall Tsieina’n Well: Hanfu: Gwisg Draddodiadol yn y Tsieina Fodern
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae Hanfu, gwisg hynafol pobl Han Tsieina, wedi mwynhau adfywiad rhyfeddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gydio yn nychymyg cenhedlaeth newydd. Mae’r wisg wedi bodoli ers mwy na 4,000 o flynyddoedd. Ar un adeg, Hanfu oedd prif steil dillad Tsieina cyn iddo gael ei ddisodli, yn enwedig yn ystod Brenhinlin Qing a chyfnodau mwy modern. Heddiw, fodd bynnag, mae Hanfu yn mwynhau adfywiad, gyda llawer o bobl ifanc yn ei chroesawu’n symbol o falchder cenedlaethol a hunaniaeth ddiwylliannol. Caiff ei gwisgo yn aml mewn digwyddiadau diwylliannol, mewn gwyliau, a hyd yn oed mewn bywyd bob dydd, gan helpu i bontio'r gorffennol a'r presennol. Wrth iddi barhau i ddod i’r amlwg, mae Hanfu yn dyst byw i hanes parhaus a mynegiant diwylliannol esblygol Tsieina.
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS