Sgwrs gyda James Price, CEO Trafnidiaeth Cymru
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Cafodd Trafnidiaeth Cymru ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2016 i newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, ac mae ei thaith 8 mlynedd yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae’r gwaith i foderneiddio a thrydaneiddio’r llinellau ar y gweill, ac mae Cyfnewidfa Fysiau newydd Caerdydd ar fin agor, sy’n golygu bod llawer i fod yn bositif yn ei gylch.
Ar gyfer Sesiwn dros Frecwast olaf y flwyddyn academaidd hon, ac fel dilyniant i sesiynau mis Gorffennaf diweddar lle rydym wedi croesawu arweinwyr busnes o sefydliadau mawr, rydym yn falch iawn o gael croesawi James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, i drafod y stori hyd yn hyn, a'r camau nesaf. Mae James wedi bod gyda TrC ers ei ddyddiau sefydlu, ac mae bellach yn goruchwylio gweithrediad o ddydd i ddydd y sefydliad hwn sy’n effeithio ar bob cornel o Gymru, a thu hwnt
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU