Ewch i’r prif gynnwys

Lansiad Llyfr 'The Conservative Party in Wales, 1945-1997'

Dydd Mawrth, 14 Mai 2024
Calendar 18:00-20:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Description of event, with Wales Governance Centre sub-identity in top left corner, photograph of author Dr Sam Blaxland, and cover of his book that is being launched.

Mae Cymru'n aml yn cael ei hystyried fel un o rannau mwyaf gwrth-Geidwadol Prydain. Llyfr Sam Blaxland, The Conservative Party in Wales, 1945-1997, yw’r astudiaeth fanwl gyntaf o ail blaid wleidyddol fwyaf Cymru yn y degawdau wedi'r Ail Ryfel Byd. Mae'r llyfr yn cwestiynu pam fod y blaid wedi llwyddo mewn rhai rhannau o Gymru tra’n methu mewn eraill. Mae’n trafod sut y ceisiodd y blaid gyfathrebu ei pholisïau, pwy oedd ei hymgeiswyr, a sut yr aeth y blaid ati i lunio polisïau penodol ar gyfer 'y genedl' - o gyflwyno'r Gweinidog Materion Cymreig cyntaf i wneud y Gymraeg yn bwnc gorfodol mewn ysgolion. Mae’r llyfr yn craffu ar ymgyrchwyr a Thorïaid amlwg, gan ofyn beth mae nhw’n ei ddatgelu am ddeimensiwn tanastudiedig ar hanes Cymru, sef bywydau'r dosbarth canol Seisnigedig a chymdeithasol geidwadol.

Noddwyd y digwyddiad gan Samuel Kurtz AS

Prif Neuadd, Adeilad y Pierhead, 14eg o Fai 2024 am 1800.
https://www.eventbrite.com/e/lansiad-llyfr-book-launch-the-conservative-party-in-wales-1945-1997-tickets-891546869687?aff=oddtdtcreator

I gael rhagor o wybodaeth am y llyfr neu i brynu copi ewch i: https://www.uwp.co.uk/book/the-conservative-party-in-wales-1945-1997/

Prif Neuadd
Adeilad y Pierhead
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Rhannwch y digwyddiad hwn