Ewch i’r prif gynnwys

Cardiff BookTalk: Les Mandarins - 70 Mlynedd yn ddiweddarach

Dydd Mawrth, 4 Mehefin 2024
Calendar 18:00-21:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

BookTalk logo and the first edition of Les Mandarins

Eleni, mae’n 70 mlynedd ers i Les mandarins gan Simone de Beauvoir gael ei gyhoeddi. Yn enillydd y Prix Goncourt yn 1954, atgof o fywyd deallusol Ffrainc yn dilyn yr Ail Ryfel Byd yw Les mandarins. Mae’n ymdrin â rhai o’r prif gwestiynau a oedd yn ymwneud ag artistiaid ag ysgolheigion ar y pryd, megis y berthynas rhwng celf a gwleidyddiaeth, a’r gwrthdaro rhwng ideoleg ac uniondeb deallusol. I ddarllenwyr cyfoes, mae’r nofel yn codi cwestiynau pwysig am ryw, heneiddio, pleser benywaidd, strwythurau grym, cyd-berthnasoedd cyfunrywiol a moesoldeb rhywiol.

Bydd Cardiff BookTalk  a Chymdeithas Sartre y DU yn ymuno i gyflwyno cyfres o gyflwyniadau byr mewn digwyddiad cyhoeddus iamlygu sut mae Les Mandarins nid yn unig yn bwysig wrth ddeall datblygiad Athroniaeth ddirfodol yn gyffredinol, yn ogystal ag ymagwedd lenyddol benodol a phrosiect llenyddiaeth Beauvoir, ond ei fod hefyd yn gallu taflu goleuni ar hinsawdd wleidyddol a heriau diwylliannol y presennol.
 
Siaradwyr a gadarnhawyd:
Juliana De Albuquerque (Coleg Prifysgol Cork)
Mary Edwards (Prifysgol Caerdydd)
John Gillespie (Prifysgol Ulster)
Dianna Taylor (Prifysgol John Carroll)

Little Man Coffee
Ivor House
Bridge St
Caerdydd
CF10 2EE

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Cardiff BookTalk