Ewch i’r prif gynnwys

Bywyd fel busnes bach yng Nghymru yn 2024

Dydd Mercher, 22 Mai 2024
Calendar 08:30-09:30

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Small Business

Yn y Sesiwn Hysbysu dros Frecwast hwn, bydd Rob Basini o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Jo Roberts o Fabulous Welshcakes a Vicky Mann o Near Me Now ac app canol trefi VZTA, yn ymuno â ni i drafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu busnesau bach yng Nghymru ar hyn o bryd.

Yn dilyn y pandemig, mae busnesau wedi dioddef effeithiau hirdymor cyfnodau cloi, argyfwng costau byw sydd wedi effeithio ar gwsmeriaid, argyfwng costau busnes, cynnydd costau ynni, cynnydd mewn cyfraddau llog a chwyddiant, a heriau sylweddol o ran recriwtio a chadw staff. Mae effeithiau Prydain yn gadael yr UE yn parhau i effeithio ar lawer o fusnesau mewn sawl ffordd. Wrth i fusnesau geisio ail-adeiladu ar ôl yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod mor anodd i gynifer, byddwn hefyd yn edrych yn ystod y sesiwn hon i weld pa gyfleoedd sydd ar gael i fusnesau bach dyfu.

Bydd Rob Basini yn rhoi trosolwg o realiti bywyd busnes i fusnesau bach yng Nghymru, a bydd yn cyffwrdd â rhai dangosyddion allweddol, gan gynnwys y rôl y mae angen i lywodraethau ei chwarae, pwysigrwydd cymorth busnes, Addysg Uwch ac Addysg Bellach wrth ddatblygu sgiliau a gweithlu galluog, ac elw wrth ganiatáu i fusnesau barhau â’u teithiau tuag at sero net.

Gweld Bywyd fel busnes bach yng Nghymru yn 2024 ar Google Maps
Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education