Ewch i’r prif gynnwys

Peint o wyddoniaeth: Dathliad o ymchwil gwyddonol a’r iaith Gymraeg

Dydd Llun, 13 Mai 2024
Calendar 18:30-21:30

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Pint of Science / Peint o Wyddoniaeth

Mae digwyddiadau gŵyl Peint o Wyddoniaeth wedi eu trefnu gan fyfyrwyr PhD o Brifysgol Caerdydd. Mae gennym siaradwyr yn ymuno â ni o Ysgol y Biowyddorau, Ysgol Meddygaeth, ymchwil yr Ysgol Gymdeithasol ac Economeg, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru!

Mae Peint o Wyddoniaeth yn darparu cyfres unigryw o sgyrsiau, arddangosiadau ac arbrofion byw a gynhelir mewn bariau eiconig ledled Caerdydd. Mae'r pynciau'n amrywio o: gwyddor diffyg ymddiriedaeth, darganfyddiadau Cymru, niwrowyddoniaeth, geneteg, a'r system imiwnedd!

Ariannwyd gan Academi Ddoethurol Prifysgol Caerdydd.

Ymynwch a ni am noson cyntaf erioid Peint o Wyddoniaeth trwy’r gyfrwng Cymraeg, sy’n dangos bod y Gymraeg yn iaith wyddonol hefyd! Cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer mynychwyr sy'n siarad Saesneg.

Datblygu therapïau i drin clefydau Prion: Angenfilod vs Zombies gan Dr Bedwyr ab Ion Thomas (Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, Mhrifysgol Caerdydd)

Ydych chi wedi ystyried sut mae gwyddonwyr yn defnyddio angenfilod i frwydro’n erbyn zombies? Yn y cyflwyniad hwn cawn weld sut mae technoleg PROTACs yn cael ei ddefnyddio er mwyn brwydro yn erbyn clefydau niwroddirywiol Prion.

Ghrelin, Dementia, a’r Gymraeg yng ngofal iechyd gan Dr Alwena Morgan (Uwch-Ddarlithydd Biocemeg, Prifysgol Abertawe)
Bydda Alwena yn son am gwaith cyffredinol grwp ymcwhil sydd o dan arweiniaeth Dr Jeff Davies ym Mhrifygol Abertawe sy'n ymchwilio rolau buddiol cyfyngu ar galorïau a rôl grelin, sef hormon o’r stumog, ar niwrogenesis a niwroddiogelu. Bydd Alwena heffys yn trafod effaith gofal Cymraeg ar gleifion mewn nifer o feysydd iechyd, gan gynnwys perspecitf y claf a’r clinigwr.

O’r Copa i’r Cwm: fy nhaith wyddonol hyd yn hyn
Dr Emily Kirkham (Gwyddonwyr ymchwil, ImmunoServ)
O weithio ar fioleg cellol a niwroddirywiaeth yn ystod fy PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, i addasu i weithio mewn genomeg a diagnosteg yn yr sector diwydiant ac imiwnoleg mewn cwmni biotechnoleg. Bydd Emkily yn trafod ei brofiad o addasu ac ehangu eu ngwybodaeth i symud ymlaen a pharhau i weithio yn y sector gwyddonol fel Cymraes sydd eisiau aros yng Nghymru.

Llawr gwaelod.
Y Lleuad / The Moon
Caerdydd
Caerdydd
CF10 1BR

Rhannwch y digwyddiad hwn