Ewch i’r prif gynnwys

Peint o wyddoniaeth: Gwyddoniaeth o anymddiried- dyddio a amcaniaethau chynllwynio

Dydd Llun, 13 Mai 2024
Calendar 18:30-21:30

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Pint of Science / Peint o Wyddoniaeth

Mae digwyddiadau gŵyl Peint o Wyddoniaeth wedi eu trefnu gan fyfyrwyr PhD o Brifysgol Caerdydd. Mae gennym siaradwyr yn ymuno â ni o Ysgol y Biowyddorau, Ysgol Meddygaeth, ymchwil yr Ysgol Gymdeithasol ac Economeg, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru!

Mae Peint o Wyddoniaeth yn darparu cyfres unigryw o sgyrsiau, arddangosiadau ac arbrofion byw a gynhelir mewn bariau eiconig ledled Caerdydd. Mae'r pynciau'n amrywio o: gwyddor diffyg ymddiriedaeth, darganfyddiadau Cymru, niwrowyddoniaeth, geneteg, a'r system imiwnedd!

Ariannwyd gan Academi Ddoethurol Prifysgolion Caerdydd.

Twyllo, Cenfigen a Gwyliadwriaeth Partner mewn Perthnasoedd Rhamantaidd – Persbectif Seicoleg Esblygiadol
Dr Martin Graff (Darllenydd mewn Seicoleg, Prifysgol De Cymru)
Mae'r cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu ar-lein bellach yn rhoi modd i'n partneriaid rhamantus wirio ein lleoliad a'n gweithgareddau yn haws nag erioed. A yw pobl bellach yn dod o hyd i ffyrdd mwy dinistriol o gymryd rhan mewn twyllo? Ydyn ni'n dod yn fwy clyfar mewn gwyliadwriaeth electronig? A yw partneriaid rhamantus yn dod yn fwy amheus a chenfigennus o ganlyniad? A all seicoleg esblygiadol ddarparu rhai atebion i'r cwestiynau hyn?

Democratiaeth, Diffyg Ymddiriedaeth, a Gwleidyddiaeth Damcaniaethau Cynllwynio
Dr Adam John Koper (Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd)
Mae diffyg ymddiriedaeth yn rhan hanfodol o unrhyw ddemocratiaeth, gan fod angen i bleidleiswyr gwestiynu a chraffu ar eu cynrychiolwyr. Ond beth sy'n digwydd pan mae diffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth yn mynd yn rhy bell? Mae'r sgwrs hon yn archwilio damcaniaethau cynllwynio cynnar am lofruddiaeth Kennedy er mwyn deall yn well sut mae diffyg ymddiriedaeth yn helpu ac yn rhwystro gwleidyddiaeth ddemocrataidd.

Llawr cyntaf
Tiny Rebel
25 Stryd Westgate
Caerdydd
CF101DD

Rhannwch y digwyddiad hwn