Ewch i’r prif gynnwys

Lluosogrwydd ym Mhortiwgaleg Brasil: Trin a Thrafod Amrywiaeth mewn Dysgu Ieithoedd trwy Gyrsiau Rhithwir

Dydd Iau, 25 Ebrill 2024
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image of Dr Cláudia Hilsdorf Rocha and 66a Park Place - Delwedd o Dr Cláudia Hilsdorf Rocha a 66a Plas y Parc

Darlith gyhoeddus gyda Dr Cláudia Hilsdorf Rocha, Prifysgol Talaith Campinas, CNPq, Brasil

Croeso i bawb

Crynodeb

Yn y sgwrs hon, bydd Dr Cláudia Hilsdorf Rocha yn trin a thrafod y cysyniad o gyrsiau iaith ar-lein agored enfawr (MOOCs) ac yn cyflwyno'r heriau presennol ar gyfer ymchwil ac ymarfer addysgol yn y maes hwn. Bydd hi hefyd yn gosod y drafodaeth trwy gyflwyno prif nodweddion Pluralidades em Português Brasileiro, sef cwrs iaith ar-lein agored enfawr sy'n canolbwyntio ar sgiliau darllen a gwrando ar gyfer dysgwyr iaith dramor canolradd sy’n dysgu Portiwgaleg. Mae'r cwrs yn cael ei arwain gan y syniad bod iaith yn ymarfer wedi’i lleoli ac sy'n gysylltiedig â'i chyd-destun a bod dysgu yn broses gydweithredol o ail-lunio gwybodaeth ac ystyron. Mae presenoldeb rhyng-gysylltiedig ystod o adnoddau amlfodd, megis iaith ysgrifenedig a llafar, delweddau a fideos, yn nodwedd ganolog o ddyluniad y cwrs. Mae hyn yn dangos ein bod yn symud tuag at gydnabod dulliau heblaw iaith yn elfennau cyfansoddol o gyfathrebu a dysgu mewn cyrsiau iaith dramor. Yn rhan o'r cyflwyniad, bydd Dr Hilsdorf Rocha hefyd yn trafod dyluniad amlfodd y cwrs er mwyn mynd i'r afael â'r her o greu cyrsiau iaith sydd â'r nod o ddysgu llythrennedd academaidd llafar yn y presennol.

Gall peth o’r digwyddiad gynnwys Portiwgaleg yn ogystal â Saesneg, er enghraifft yn ystod y sesiwn holi ac ateb.

Am y siaradwr

Mae Cláudia Hilsdorf Rocha yn Athro Cyswllt yn yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol, Prifysgol Campinas, Brasil. Mae ganddi radd PhD mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ac mae ei phrif feysydd o ddiddordeb yn cynnwys addysgu a dysgu ieithoedd tramor, llythrennedd a thechnoleg addysg. Mae ganddi ysgoloriaeth cynhyrchiant ymchwil a roddwyd gan y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Datblygu Gwyddonol a Thechnolegol (CNPq) ac ar hyn o bryd mae hi’n gwneud gwaith ymchwil ar drawsieithu, llythrennedd academaidd llafar, a dysgu ieithoedd tramor mewn amgylcheddau digidol.

Trefn y digwyddiad a recordio

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn person a byddwn yn recordio’r ddarlith er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd dydd Iau 18 Ebrill i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd.

Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Cofrestrwch am y digwyddiad.

Asesiad risg

Cynhaliwyd asesiad risg ar gyfer y digwyddiad hwn. Os hoffech weld copi o'r asesiad risg, e-bostiwch mlang-events@caerdydd.ac.uk 

Hysbysiad Diogelu Data

Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.