Ewch i’r prif gynnwys

Deallusrwydd Artiffisial a Chyhoeddi Academaidd: Beth sydd gan y dyfodol ei gynnig i awduron, darllenwyr a chyhoeddwyr?

Dydd Llun, 13 Mai 2024
Calendar 15:00-16:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae deallusrwydd artiffisial yn addo chwyldroi byd cyhoeddi academaidd - ond sut, yn union? A fydd deallusrwydd artiffisial yn cyflwyno cyfnod newydd o greadigrwydd ac arloesedd mewn ysgrifennu academaidd a chyhoeddi? Neu a yw'n bygwth dod â'r holl broses gyhoeddi i lawr, o dan faich gwyddoniaeth annibynadwy, gwybodaeth anghywir a llên-ladrad? A yw deallusrwydd artiffisial yn peri risg i'r sector cyhoeddi ysgolheigaidd neu'n gwneud rhai unigolion yn fwy pwerus nag erioed?   

Ymunwch â’n gweminar ryngweithiol, lle byddwn yn dadansoddi beth mae’r chwyldro deallusrwydd artiffisial yn ei olygu i chi, fel awduron, golygyddion, adolygwyr, darllenwyr a chyhoeddwyr. Byddwn hefyd yn ystyried ymatebion posibl gan lunwyr polisi, yn dilyn adroddiad diweddar ac argymhellion polisi i’r Comisiwn Ewropeaidd. 

Dyma pwy fydd ar ein panel o siaradwyr nodedig: 

  • Yr Athro Nicole Grobert, Cadeirydd y Grŵp o Brif Gynghorwyr Gwyddonol, Barn Wyddonol ar y defnydd llwyddiannus ac amserol o ddeallusrwydd artiffisial mewn gwyddoniaeth yn yr UE
  • Yr Athro Paul Groth, Athro Gwybodeg, Prifysgol Amsterdam, Aelod o Weithgor SAPEA ar ddiweddariad llwyddiannus ac amserol o ddeallusrwydd artiffisial mewn gwyddoniaeth yn yr UE
  • Yr Athro Alberto Melloni, Aelod o Grŵp y Prif Gynghorwyr Gwyddonol, Barn Wyddonol ar y defnydd llwyddiannus ac amserol o ddeallusrwydd artiffisial mewn gwyddoniaeth yn yr UE
  • Dr Anita de Waard, Is-lywydd Cydweithrediadau Ymchwil, Elsevier

Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan yr Athro Ole Petersen, Cyfarwyddwr Hyb Gwybodaeth Caerdydd Academia Europaea. Mae'n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.


Trefnir y gweminar gan Hyb Gwybodaeth Caerdydd Academia Europaea fel rhan o’r Mecanwaith Cyngor Gwyddonol i’r Comisiwn Ewropeaidd.

Rhannwch y digwyddiad hwn