Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Wolfson Ysgol Haf

Calendar Dydd Llun 15 Gorffennaf 2024, 10:00-Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2024, 15:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

vanner for the wolfson summer school

Mae’r cwrs tri diwrnod hwn, a gynhelir ar-lein, yng ngofal tîm rhyngddisgyblaethol arbenigol Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, Prifysgol Caerdydd.

Nod y rhaglen yw rhoi sylfaen i ddarpar ymchwilwyr o gefndiroedd clinigol ac anghlinigol mewn ymchwil ym maes iechyd meddwl ieuenctid, gan ganolbwyntio'n bennaf ar y gwaith eang a wnawn yng Nghanolfan Wolfson.

Mae'r ysgol haf yn cael ei chyflwyno gan ymchwilwyr o'r radd flaenaf o’r ganolfan uchel ei pharch hon. Byddant yn arwain cyflwyniadau a sesiynau grŵp bach yn eu meysydd arbenigedd, gyda ffocws ar ddeall achosion problemau iechyd meddwl pobl ifanc, er mwyn gosod sail i ffyrdd newydd effeithiol o gynnig cymorth ymarferol.

Mae Ysgol Haf Wolfson ar gyfer darpar ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn symud ymlaen i faes ymchwil iechyd meddwl ieuenctid neu i ddysgu rhagor yn ei gylch. Os oes gennych chi radd israddedig (neu ar fin graddio), â diddordeb mewn gweithio ym maes ymchwil iechyd meddwl pobl ifanc, neu eisiau  cyflwyniad i'r maes hwn, byddwn yn croesawu eich cais.

Mae’r ysgol haf yn rhad ac am ddim.

Rhannwch y digwyddiad hwn