Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd Wyddonol Flynyddol 2024 Cymdeithas Deintyddiaeth Bediatreg Prydain a Diwrnod Astudio’r Athrawon

Calendar Dydd Iau 12 Medi 2024, 09:00-Dydd Gwener 13 Medi 2024, 16:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Thema’r gynhadledd yw 'Gofal Iawn ar yr Adeg Iawn' ac wrth ei gwraidd mae ffocws ar sicrhau bod pob plentyn yn derbyn y gofal priodol ar yr adeg iawn gan dîm priodol o weithwyr iechyd proffesiynol. Bydd ein siaradwyr clodfawr yn trafod ystod eang o bynciau, gan gynnwys dulliau ar sail tystiolaeth o atal clefydau deintyddol, rheoli clefydau deintyddol, trawma deintyddol, a rheoli plant ag anghenion deintyddol a meddygol cymhleth. 

Lleoliad y gynhadledd fydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, sy’n lleoliad canolog i bawb. Lleolir y ganolfan hon yng nghalon ein dinas, sydd ag awyrgylch bywiog, amlddiwylliannol ac amrywiol i bobl allu ei fwynhau. Os hoffech chi grwydro’r ardal, fe welwch chi adeiladau modern a thraddodiadol eu harddull o amgylch y lle. 

Bydd gennych chi sawl cyfle i drafod a rhwydweithio â chydweithwyr drwy gydol y rhaglen ddiddorol hon ac yn ystod ein digwyddiad cymdeithasol. Caiff ein cynrychiolwyr eu hannog i ymgysylltu â'n noddwyr a fydd yn arddangos eu cynhyrchion o ansawdd uchel yn ystod y gynhadledd. 

Bydd hwn yn brofiad gwerthfawr a fydd yn eich cyfoethogi a'ch grymuso.

Gweld Cynhadledd Wyddonol Flynyddol 2024 Cymdeithas Deintyddiaeth Bediatreg Prydain a Diwrnod Astudio’r Athrawon ar Google Maps
Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Centre for Student Life
Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3BB

Rhannwch y digwyddiad hwn