Deall Tsieina’n Well: Edrych ar Gelfyddydau Traddodiadol Tsieineaidd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Beijing Opera person and coloured paper](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/2803883/Beijing-Opera-and-Chinese-paper-cutting-2024-3-22-13-49-38.png?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Ymunwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am ddwy agwedd ddiddorol ar ddiwylliant Tsieina: Opera Beijing, a chyfrinach torri papur ac origami.
Dydd Mercher 24 Ebrill 2024
Ystafelloedd 1.24 & 1.25, Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
18:30 tan 20:00
Croeso i bawb
Mae cyflwyniadau Deall Tsieina’n Well, a arweinir gan diwtoriaid o Sefydliad Confucius Caerdydd, yn cynnig cyfle gwych i ymchwilio'n ddyfnach i ddiwylliant ac iaith Tsieina. Boed yn gelf, ffilmiau a cherddoriaeth Tsieineaidd neu’n ffeithiau am y Sidydd Tsieineaidd a nodau Tsieineaidd, mae yna rywbeth i bawb ei ddarganfod a'i fwynhau.
Yn ystod y sesiwn hon, byddwch chi’n cael y cyfle i gymryd rhan yn y gweithgareddau canlynol:
- Deall Opera Beijing: Dod i wybod am ei hanes, symbolaeth a thechnegau. Dod i wybod am wisgoedd, symudiadau ac arwyddocâd colur.
- Meistroli Torri Papur ac Origami: Darganfod cyfrinachau technegau cain. Trawsnewid papur yn ddyluniadau a ffigurau cymhleth.
Trefn y digwyddiad
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn person.
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 10 Ebrill i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd.
Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.
Asesiad risg
Cynhaliwyd asesiad risg ar gyfer y digwyddiad hwn. Os hoffech weld copi o'r asesiad risg, e-bostiwch mlang-events@caerdydd.ac.uk
Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.
Centre for Student Life
Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3BB