Ewch i’r prif gynnwys

Cyfarfod Cyntaf Rhwydwaith Geometreg a Dadansoddi Metrig y DU

Dydd Gwener, 12 Ebrill 2024
Calendar 09:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Decorative image of venue

Dyma gyfarfod cyntaf Rhwydwaith Geometreg a Dadansoddi Metrig y DU. Ein nod yw datblygu rhwydwaith cryf ac amrywiol o ymchwilwyr, gan greu cydweithrediadau newydd a chefnogi’r maes, tra’n rhoi sylw arbennig i gefnogi datblygiad ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac ymchwilwyr o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli yn ein pwnc. Rydym yn croesawu pob ymchwilydd sydd â diddordeb yn y maes astudio.
Mae'r rhwydwaith yn canolbwyntio'n bennaf ar bynciau mewn geometreg wahaniaethol a dadansoddiad geometrig sy'n cynnwys: Gofodau Alexandrov, maniffoldiau gyda chrymedd is, gofodau RCD, geometreg Lorentzian a PDEs geometrig.
Gwerthfawrogir cefnogaeth Cymdeithas Fathemategol Llundain (LMS). Mae'r rhwydwaith hwn yn Grŵp Ymchwil ar y Cyd a ariennir gan yr LMS. Cefnogir y rhwydwaith hwn gan brosiect sydd wedi derbyn cyllid gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC) o dan raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd (cytundeb grant Rhif 802689, PI: A Mondino).  Cefnogir y rhwydwaith hefyd gan Gymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI [rhif grant MR/W01176X/1, PI: J Harvey].

Gweld Cyfarfod Cyntaf Rhwydwaith Geometreg a Dadansoddi Metrig y DU ar Google Maps
3.38
Abacws
Ffordd Senghennydd
Cathays
Caerdydd
CF24 4AG

Rhannwch y digwyddiad hwn