Ewch i’r prif gynnwys

Darlithoedd Canolfan Wolfson: Problemau sylfaenol yn y sylfaen dystiolaeth o ran trin iselder ymhlith y glasoed

Dydd Iau, 11 Ebrill 2024
Calendar 14:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

banner

Mae dau brif ddull o roi triniaeth ar gyfer iselder ymhlith y glasoed: seicotherapi, meddyginiaeth, neu gyfuniad o’r ddau. I ble mae rhywun yn troi i gael gafael ar y dystiolaeth fydd yn llywio ei opsiynau o ran triniaeth? Mae'r cwestiwn hwn yn berthnasol i gleifion a'u gofalwyr, i glinigwyr ac i lunwyr polisïau wrth iddyn nhw gynllunio gwasanaethau. Fodd bynnag, mae'r cwestiwn yn arbennig o anodd ei ateb ym maes iselder ymhlith y glasoed, pan fydd data treialon penben ar feddyginiaeth a seicotherapi yn gyfyngedig a phan fydd yn rhaid i argymhellion felly ddeillio o gymariaethau anuniongyrchol o ran effeithiolrwydd triniaethau.

Yn y cyflwyniad hwn, bydd yr Athro Argyris Stringaris yn trafod a all y sylfaen dystiolaeth bresennol ar gyfer triniaethau iselder ymhlith y glasoed gynnig atebion dilys i gwestiynau o’r fath. Bydd yn cyflwyno fframwaith cysyniadol er mwyn ateb cwestiynau o’r fath, gan ddadlau tri phwynt:

  1. Mae'n debygol y bydd y sawl sy’n cymryd rhan mewn treialon Seicotherapi a Meddyginiaeth yn dod o boblogaethau gwahanol ac mae hyn yn bygwth y casgliadau a wneir wrth eu cymharu y naill â’r llall.
  2. Mae'r rheolaethau a ddefnyddir mewn treialon seicotherapi a meddyginiaeth i drin iselder ymhlith y glasoed yn amrywio’n ansoddol, ond hefyd o ran eu heffeithiau gan awgrymu na allant gynrychioli’r un “cyflwr rheoli”, h.y. gwrthffaith rhesymol sy’n esbonio sut y byddai pethau pe na bai rhywun wedi derbyn triniaeth.
  3. Nid yw amodau rheoli seicotherapi mewn treialon sy’n ymwneud ag iselder ymhlith ieuenctid, ar gyfartaledd, yn cyfateb yn dda i’r amodau ymyrryd (e.e. nifer yr oriau y bydd person yn agored iddynt, nifer y sesiynau, hygrededd y cyflwr rheoli), a bydd hyn yn arwain at bryderon ynghylch a yw’r rhain yn gymaryddion teg, yn unol a’r safonau y byddai rhywun yn eu disgwyl yn gyffredinol gan ymyraethau eraill yn y gwyddorau iechyd.

Mae'r Athro Argyris Stringaris yn trafod y materion hyn yng ngoleuni canllawiau, gwneud penderfyniadau clinigol a bydd yn gwneud rhai awgrymiadau ynghylch treialon y dyfodol.

Rhannwch y digwyddiad hwn