Ewch i’r prif gynnwys

Lleoedd Trefol, Cymod yn Ewrop a’i Ail-adeiladu ar ôl y Rhyfel: Cofentri a Kiel, 1945-75

Dydd Mercher, 8 Mai 2024
Calendar 16:00-18:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

A brown cross on a white wall with a plaque entitled 'Coventry' underneath
Darlith gyhoeddus a derbyniad gyda diodydd gyda Dr Christoph Laucht, Athro Cyswllt ym maes Hanes Modern ym Mhrifysgol Abertawe
Darlith 16:00 to 17:00
Derbyniad gyda diodydd 17:00 to 18:00
Croeso i bawb
Crynodeb

Bwriad y cyflwyniad hwn yw darparu trosolwg o brosiect sy’n bwnc i lyfr newydd sy’n mynd i'r afael â’r rhan a chwaraeodd lleoedd trefol wrth i gymodi ac ail-adeiladu ddigwydd yn Ewrop ar ôl 1945. Gan adeiladu ar waith diweddar sy’n ymdrin â’r dimensiwn gofodol yn y wladwriaeth les (Guy Ortolano) a’r democrateiddio a welwyd yng Ngorllewin Ewrop ar ôl yr Ail Ryfel Byd (Martin Conway), yn ogystal ag ymchwil ym meysydd daearyddiaeth, heddwch a gwrthdaro, prif ffocws y cyflwyniad hwn bydd dwy astudiaeth achos, sef dinas Cofentri yn Lloegr a Kiel yng Ngorllewin yr Almaen. Bydd y papur hwn yn defnyddio dull cymharol a thrawswladol, sy’n sail iddo. Yno, ystyrir ail-adeiladu nid yn unig fel modd o ail-adeiladu ffisegol o’r lleoedd trefol, ond yn hytrach fel prosiect seicolegol ehangach sydd â chysylltiad agos â chymodi. Yn achos Kiel a Cofentri, roedd hyn yn cynnwys dod i delerau â'r hanes gwleidyddol o Sosialaeth Cenedlaethol.

Caiff y cyflwyniad hwn ei rannu’n ddwy ran. Yn gyntaf, aiff ef i'r afael â’r rôl a wnaeth y ddwy ddinas hyn eu chwarae fel safleoedd ar gyfer cymodi. Yn y fan hon, telir sylw arbennig i’r rhan allweddol a chwaraeodd swyddogion trefol, urddau crefyddol, arweinwyr busnes, academyddion a dinasyddion eraill yn y ddwy ddinas wrth ail-sefydlu cysylltiadau rhwng yr Almaen a Phrydain fel prosiect adeiladol o’r gwaelod i fyny, a thrwy hynny, cyfrannu’n enfawr at y cymodi yn Ewrop. Fel y daw’n glir, bu’r Rhyfel Oer (a ddaeth i’r amlwg yn fwyfwy cynyddol) achosi i’r ymdrechion dinesig hyn wrthdaro ag agendâu llywodraethau Prydain a Gorllewin yr Almaen.

Yn dilyn hynny, bydd yr ail adran yn trafod y lleoedd trefol a’u rôl yn y prosiect ailadeiladu. Bydd y rhan hon hefyd yn ystyried y cynllunio trefol hynny a aeth yn ei flaen o’r cyfnod cyn y rhyfel, i’r cyfnod yn dilyn y rhyfel.

Bywgraffiad

Mae Dr Christoph Laucht, FRHistS, FHEA, yn Athro Cyswllt ym maes Hanes Modern ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n hanesydd sy’n hyddysg mewn Gorllewin Ewrop wedi 1945, yn enwedig yr Almaen a Phrydain.

Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil mae hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol; ymchwil ar heddwch a gwrthdaro drwy hanes; hanes trawswladol; ffilm, teledu a hanes; Y Rhyfel Oer; Cysylltiadau rhwng Prydain a'r Almaen; ac, yn fwyaf diweddar, hanes isadeileddau. Laucht yw awdur Elemental Germans: Klaus Fuchs, Rudolf Peierls and the Making of British Nuclear Culture, 1939-59 (Palgrave Macmillan, 2012).

Ar hyn o bryd, mae'n gorffen ei ail lyfr Uncertainty and the Nuclear Threat in Britain, 1979-85 ac yn cyd-ysgrifennu llyfr ar Voids in Global Politics.

Trefn y digwyddiad

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn person.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 24 Ebrill i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd.

Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Cofrestrwch am y digwyddiad.

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Asesiad risg

Cynhaliwyd asesiad risg ar gyfer y digwyddiad hwn. Os hoffech weld copi o'r asesiad risg, e-bostiwch mlang-events@caerdydd.ac.uk

Hysbysiad Diogelu Data

Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.