Hybu Effaith Ymchwil: Ymgysylltu ar Bolisïau i Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae’r gwaith o lunio polisïau effeithiol yn y llywodraeth yn fwyfwy dibynnol ar gyngor a thystiolaeth wyddonol. Mae ymgysylltu ar bolisïau yn galluogi ymchwilwyr a rhanddeiliaid eraill i gymryd rhan mewn deialog gyda llunwyr polisïau, gyda’r nod o wella penderfyniadau a pholisïau cyhoeddus.
Pa bethau y dylid eu gwneud a’u hosgoi wrth ymgysylltu ar bolisïau a rhoi cyngor gwyddonol, a sut all ymchwilwyr gyrfa cynnar gymryd rhan yn y broses? Ymunwch â ni yn ein gweminar, pan fyddwn yn trafod y cyfleoedd a’r heriau presennol sy’n wynebu ymchwilwyr gyrfa cynnar o ran ymgysylltu, a sut allwn gymryd camau ar y cyd i hwyluso’r broses yn y dyfodol.
Anelir y sesiwn at ymchwilwyr sy’n ystyried eu hunain yn Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar ac sydd â diddordeb mewn deall sut all eu hymchwil greu effaith y tu hwnt i feysydd eu disgyblaeth, a hefyd cânt ddysgu awgrymiadau ymarferol ynglŷn â sut i ymgysylltu â llunwyr polisïau.
Bydd y weminar yn cael ei chadeirio gan Athro Ole Petersen CBE FMedSci MAE FLSW FRS, Cyfarwyddwr Prifysgol Caerdydd – Canolfan Wybodaeth Academia Europaea.
Siaradwyr gwadd
- Sarah Chaytor, Rhwydwaith Ymgysylltu Polisi’r Prifysgolion (UPEN) Cyd-gadeirydd, a Chyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi ar gyfer Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu Byd-eang Coleg Prifysgol Llundain
- Dr Jack Price, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
- Dr Stephany Mazon, Swyddog Polisi Gwyddonol, Young Academies Science Advice Structure (YASAS)
Trefnir y weminar ar y cyd gan Ganolfan Gwybodaeth Academia Europea Caerdydd a’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.