Ewch i’r prif gynnwys

"Delweddau o'r rhyddhawyr" - Ffotograffau o sifiliaid Ffrengig gan ffotograffwyr rhyfel Prydain

Dydd Mawrth, 16 Ebrill 2024
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Airborne troops with French civilians near Ranville, 10 June 1944
Crynodeb

Bydd y cyflwyniad hwn yn trin a thrafod sut y gellir defnyddio ffotograffiaeth i astudio'r berthynas rhwng byddin Prydain a sifiliaid Ffrainc a bydd yn archif ynddo'i hun hefyd. Nod ffotograffwyr rhyfel Prydain oedd darlunio'r Rhyddhad. Dechreuodd hyn ar 6 Mehefin 1944 a pharhaodd tan ddiwedd y rhyfel. Un o'u hoff themâu oedd cynrychioli sifiliaid Ffrengig, ar eu pennau eu hunain neu’n cymysgu â milwyr Prydain. Bydd y ddarlith hon yn trafod sut y lluniwyd y delweddau hyn, y cyd-destun y tynnwyd y lluniau ynddo a'u heffaith ar gysylltiadau rhwng y fyddin a sifiliaid.

Cynhelir y cyflwyniad hwn yn Ffrangeg.

Cyflwynir y digwyddiad hwn yn rhan o'r thema ymchwil Hanes a Threftadaeth.

Bywgraffiad

Myfyriwr PhD yn ei ail flwyddyn sy’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caen fel ei gilydd yw Guillaume Yverneau. Teitl ei ddoethuriaeth yw: ‘Milwyr Prydain a sifiliaid: Astudiaeth o'r berthynas rhwng milwyr Prydain a sifiliaid adeg rhyddhau Ffrainc (1944-1945)’.

Trefn y digwyddiad a recordio

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn person a byddwn yn recordio’r ddarlith er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn 2 Ebrill 2024 i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Cofrestrwch am y digwyddiad.

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data

Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.