Ewch i’r prif gynnwys

Crefydd Sifil a'r Oleuedigaeth

Dydd Mercher, 20 Mawrth 2024
Calendar 19:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

River scene

Mewn cymdeithasau gorllewinol, tueddwn i feddwl bod moderneiddio yn awgrymu seciwlariaeth: y dylai crefydd fod ar wahân i wleidyddiaeth, eglwys oddi wrth y wladwriaeth, a’n credoau preifat oddi wrth fywyd cyhoeddus. Mae haneswyr, damcaniaethwyr cymdeithasol, ac athronwyr gwleidyddol yn cyfeirio at yr Oleuedigaeth fel gwawr moderniaeth seciwlar, yn enwedig Cyfansoddiad Ffederal America (1787) a'r Chwyldro Ffrengig.

Er hynny, credai athronwyr blaenllaw’r Oleuedigaeth a nifer o’r chwyldroadwyr a ysgogodd y ddigwyddiadau yn America a Ffrainc fod crefydd yn anwahanadwy oddi wrth wleidyddiaeth ac, hyd yn oed os na ddylai fod eglwys sefydledig, fod yn rhaid tywallt gwladwriaeth a bywyd cyhoeddus â defod grefyddol a Christnogol. Fel y bydd y sgwrs hon yn dadlau, fe sefydlwyd crefyddau sifil - ymdrechion i reoleiddio crefydd trwy ddeddfwriaeth y wladwriaeth - sy'n siapio gwleidyddiaeth y gorllewin hyd heddiw.

Byddwn ni’n anfon dolen Zoom ar gyfer y digwyddiad at bawb sydd wedi cofrestru. Bydd yn cyrraedd ar y diwrnod pan fydd y ddarlith yn cael ei chynnal. Sylwer y bydd y ddolen Zoom yn cyrraedd drwy e-bost gan Dr Paul Webster. Os na fyddwch chi wedi derbyn dolen Zoom erbyn canol dydd ar 20 Mawrth, anfonwch neges e-bost at Paul (websterp@caerdydd.ac.uk) a bydd yn ei hanfon atoch chi.

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Exploring the Past lecture series