Ewch i’r prif gynnwys

Wynebu'r Gorffennol: Pwysigrwydd Cydnabyddiaeth a Chywiro

Dydd Mercher, 6 Mawrth 2024
Calendar 18:30-21:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

A historical image of Sir Tom Hopkinson

Bydd Laura Trevelyan, cyn-newyddiadurwr y BBC ac ymgyrchydd dros gyfiawnder adferol i ddioddefwyr y fasnach gaethweision, yn rhoi’r ddarlith Sir Tom Hopkinson gyntaf.

Roedd Syr Tom yn arloeswr ym maes addysg newyddiaduraeth. Ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn olygydd, a gyhoeddodd y lluniau cyntaf o gyflafan Sharpeville yn Ne Affrica, sefydlodd y Ganolfan Astudiaethau Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd Hopkinson o blaid swyddogaeth newyddiaduraeth mewn cymdeithas ddemocrataidd, gan ddweud, “Gwasg rydd yw gwarcheidwad mwyaf gwyliadwrus y wladwriaeth. Mae gwasg sydd bob amser yn dweud 'ie' yn angheuol i lywodraeth dda”. Bydd y gyfres o ddarlithoedd yn trin a thrafod themâu sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau a democratiaeth.

Mae Laura Trevelyan yn newyddiadurwr ac yn eiriolwr a oedd yn gysylltwr a gohebydd i BBC News. Mae hi'n gyn-fyfyriwr ac yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd. Gadawodd Laura BBC News ym mis Mawrth 2023 ar ôl treulio ddeng mlynedd ar hugain yn gweithio i’r gwasanaeth. Ychydig cyn hyn, aeth ei theulu ar daith hanesyddol i Grenada, lle ymddiheurodd yn gyhoeddus i bobl Grenada am rôl y Trevelyans wrth gaethiwo Affricanwyr ar yr ynys. Mae hi’n gyd-sylfaenydd Heirs of Slavery, grŵp o bobl o Brydain y gwnaeth eu hynafiaid elwa o gaethiwo pobl Affricanaidd yn y Caribî.

Gweld Wynebu'r Gorffennol: Pwysigrwydd Cydnabyddiaeth a Chywiro ar Google Maps
Large Lecture Theatre (0.06)
Two Central Square

Caerdydd
CF10 1FS

Rhannwch y digwyddiad hwn