Ewch i’r prif gynnwys

Arloesedd a arweinir gan heriau yng Nghymru: Sesiwn Sbotolau Canolfan Rhagoriaeth Cymru Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI)

Dydd Mawrth, 12 Mawrth 2024
Calendar 08:30-12:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Cardiff University Innovation Network

Mae Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) yn ariannu gwaith ymchwil a datblygu i ddatrysiadau arloesol newydd sy’n mynd i'r afael ag anghenion nad ydynt eisoes yn cael eu diwallu ym maes iechyd, a lle nad oes datrysiad rhwydd i’w gael ar y farchnad.

Mae SBRI yn cynnig y cyfle i sefydliadau weithio’n uniongyrchol â’r sector cyhoeddus i ddatblygu technolegau a phrosesau newydd, gan helpu i gyflawni targedau effeithlonrwydd a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r fenter hon yn agored i ba bynnag sefydliad, ni waeth beth fo'i faint na’i brofiad blaenorol o weithio mewn sector penodol. 

A hithau’n cael ei chynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Canolfan Ragoriaeth Cymru SBRI yn cynnig cyfle gwych i fusnesau yng Nghymru, yn enwedig cwmnïau newydd, i ddatblygu ac arddangos technoleg, a gefnogir gan gwsmer arweiniol deallus. Ei nod yw defnyddio pŵer caffael y llywodraeth i gyflymu datblygiad technoleg, gan gefnogi prosiectau trwy'r camau dichonoldeb a phrototeipio sydd fel arfer yn anodd i’w hariannu. Gall syniadau newydd gael eu harchwilio a’u treialu drwy raglen ddatblygu fesul cam a fydd yn lleihau risg ar gyfer y ddau barti ac yn helpu i adnabod y prosiectau mwyaf addawol.

Ymunwch â ni ar 12 Mawrth i wybod rhagor am waith SBRI, a'r cyfleoedd sydd ar gael i chi a'ch sefydliad.

0.47
sbarc|spark
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ

Rhannwch y digwyddiad hwn